Arolwg o'r Defnydd o Ganllawiau Diogelwch 2026 - LGA
Hysbysiad Preifatrwydd
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd canlynol.
Bydd y canlynol yn esbonio eich hawliau ac yn rhoi'r wybodaeth y mae gennych hawl i'w chael o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU.
1. Enw a manylion cyswllt y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a'n Swyddog Diogelu Data
Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yw'r rheolydd data. Gellir cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk
2. Pa ddata personol rydym yn eu casglu a pham
Mae eich data personol yn cael eu casglu fel rhan o arolwg ymchwil a gynhelir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Diben yr ymchwil yw llywio fersiynau o ganllawiau diogelwch ymgeiswyr yn y dyfodol a'r ffordd y caiff canllawiau eu dosbarthu i ymgeiswyr. Bydd hefyd yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o brofiadau ymgeiswyr o gael eu bygylu yn ystod cyfnodau etholiadau.
Mae eich data personol yn cael eu casglu rhag ofn y byddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil bellach. Mae darparu eich data personol yn gwbl ddewisol ac nid oes angen i chi ddarparu eich data personol os byddai'n well gennych beidio â gwneud hynny. Dim ond er mwyn cysylltu â chi ynglŷn ag ymchwil bellach y caiff eich data personol eu defnyddio.
Mae'r data personol canlynol yn cael eu casglu at y diben hwn: cyfeiriad e-bost.
3. Sail gyfreithlon dros brosesu'r data
Mae'r ddeddfwriaeth diogelu data yn nodi pryd y caniateir i ni brosesu eich data yn gyfreithlon. Y sail gyfreithlon sy'n gymwys i'r gwaith prosesu hwn yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd.
4. Â phwy y byddwn yn rhannu'r data
Caiff eich data eu rhannu ag aelodau o'r Gyfarwyddiaeth Etholiadau yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Caiff y canlyniadau cryno cyfanredol eu rhannu â thimau Etholiadau yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
5. Am ba hyd y byddwn yn cadw'r data personol, neu'r meini prawf a ddefnyddir i bennu'r cyfnod cadw.
Os byddwch yn ymateb i arolwg ymchwil, caiff eich data eu cadw gan aelodau o'r tîm Ymchwil a Dadansoddi Etholiadau yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol – caiff eich data eu cadw mewn fformat y gellir eich adnabod ohono am hyd at ddwy flynedd, ac yna mewn fformat dienw am hyd at saith mlynedd.
6. Eich hawliau, e.e. yr hawl i weld eich data, eu cywiro, eu dileu
Y data rydym yn eu casglu yw eich data personol, ac mae gennych hawliau sy'n effeithio ar yr hyn sy'n digwydd iddynt. Mae gennych yr hawl:
a. i wybod ein bod yn defnyddio eich data personol
b. i weld pa ddata sydd gennym amdanoch chi
c. i ofyn i ni gywiro eich data, a gofyn sut rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a ddelir gennym yn gywir
d. cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (gweler isod)
O dan rai amgylchiadau efallai y bydd gennych hefyd hawl i dynnu yn ôl eich caniatâd i ni ddal neu ddefnyddio eich data, i fynnu ein bod yn dileu'r holl ddata amdanoch neu i wrthwynebu mathau penodol o ddefnydd o'ch data. Byddwn yn dweud wrthych pryd y bydd yr hawliau hyn yn gymwys.
7. Anfon data dramor
Ni chaiff eich data personol eu hanfon dramor.
8. Penderfyniadau awtomataidd
Ni fyddwn yn defnyddio eich data ar gyfer unrhyw broses gwneud penderfyniadau awtomataidd.
9. Storio, diogelwch a rheoli data
Caiff eich data personol eu storio ar blatfform arolwg fel modd i gasglu data. Yna, caiff y data eu lawrlwytho a'u storio yn un o systemau TG diogel y llywodraeth. Caiff eich data eu storio ar blatfform arolwg am hyd at ddwy flynedd.
10. Cwynion a rhagor o wybodaeth
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd y mae'r Adran wedi ymddwyn, gallwch gwyno.
Os byddwch am wneud Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun, cais arall mewn perthynas â'ch hawliau, neu os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, dylech gysylltu â dataprotection@communities.gov.uk yn gyntaf.
Os na fyddwch yn fodlon o hyd, neu i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:
The Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow, Cheshire,
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745
https://ico.org.uk/