Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Mae’r ddogfen ymgynghori a'r broses ymgynghori hon wedi’u cynllunio i gadw at yr Egwyddorion Ymgynghori a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Cabinet.
Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o'r bobl a'r sefydliadau y maen nhw’n eu cynrychioli a lle bo'n berthnasol pwy arall y maen nhw wedi ymgynghori â nhw wrth ddod i'w casgliadau pan fyddant yn ymateb.
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â'r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth diogelu data y DU). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn gynnwys data personol pan fo'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Os ydych chi am i'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol fod yr adran, fel awdurdod cyhoeddus, wedi’i rhwymo gan y cyfundrefnau mynediad at wybodaeth ac efallai felly y bydd yn rhaid iddi ddatgelu'r cyfan neu rywfaint o'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Oherwydd hyn, byddai o gymorth pe baech yn esbonio pam rydych chi o’r farn bod yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi yn gyfrinachol. Os cawn gais am ddatgelu’r wybodaeth byddwn yn cymryd eich esboniad i ystyriaeth yn llawn, ond allwn ni ddim rhoi sicrwydd bod modd cadw cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG yn cael ei ystyried ohono’i hun yn rhwymol i'r adran.
Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn prosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data y DU ac yn y mwyafrif o amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedi'i gynnwys isod.
Ni fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai bod gofyn am hynny’n benodol.
Mae eich barn yn werthfawr i ni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb.
Ydych chi'n fodlon bod yr ymgynghoriad hwn wedi dilyn yr Egwyddorion Ymgynghori? Os nad ydych yn fodlon neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynghylch sut y gallwn wella'r broses, cysylltwch â ni trwy'r weithdrefn gwyno.