Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Effaith ar yr amgylchedd a nodweddion gwarchodedig
- Yn ogystal â'r cwestiynau mwy penodol am gynllunio’r polisi, rydym yn awyddus i ddeall effaith ganfyddedig mewn ystod o feysydd.
- Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau. Rydym yn ceisio barn am yr effeithiau posibl ar y grwpiau hynny.
- Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd 2021 ddyletswydd gyfreithiol yn Lloegr i roi sylw dyledus i bum Egwyddor Amgylcheddol hefyd. Eu pwrpas yw atal difrod amgylcheddol a gwella'r amgylchedd. Mae effaith polisïau ar yr amgylchedd, bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd hefyd yn ystyriaeth bwysig yng Nghymru. Rydym yn awyddus i glywed barn ar unrhyw effeithiau amgylcheddol canfyddedig yn sgil y polisi hwn.
- Rydym yn awyddus i ddeall unrhyw effeithiau a ragwelir ar y system gyfiawnder o ganlyniad i'r polisi hwn. Mae ystyried yr effeithiau hyn yn bwysig wrth sicrhau nad oes effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y system gyfiawnder.