Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr

  1. Mae llawer o'r pwerau i greu is-ddeddfwriaeth y mae’n rhaid eu defnyddio cyn y gellir gweithredu Deddf 2024 yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr a chan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Mae gan ein llywodraethau ddiddordeb mewn deall a oes gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr a allai fod yn haeddu dull gweithredu gwahanol ar draws y cynigion polisi hyn ym mhob gwlad.
  1. Bydd yr atebion i'r cwestiynau hyn yn ein helpu i ddeall pa arferion all fod yn wahanol ym mhob gwlad, ac felly a oes angen dull gweithredu gwahanol.
  1. Yn ogystal, mae cyfle i wahaniaethu rhwng Cymru a Lloegr o ran ymdrin â diwygiadau pellach yn y dyfodol, a amlinellir yn ail ran y ddogfen hon. Mae gennym ddiddordeb mewn deall barn ar yr achos dros newid a'r manteision penodol neu fel arall i Gymru o ymgymryd â diwygiadau mewn perthynas â'r gyfundrefn gwaith mawr, materion eraill yn ymwneud â thaliadau gwasanaeth a chymwysterau gofynnol i asiantiaid rheoli eiddo a nodir yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd ymatebion i'r cwestiynau hyn yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru mewn penderfyniadau ynghylch diwygiadau deddfwriaethol i Gymru yn y dyfodol. 
193. Os ydych chi'n lesddeiliad, ble mae eich eiddo?
194. Os ydych chi'n asiant rheoli, landlord, neu barti arall â diddordeb, ble mae'r eiddo rydych chi'n delio â nhw?
195. Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw wahaniaethau yng ngweithrediad taliadau gwasanaeth neu gyfrifon taliadau gwasanaeth rhwng Cymru a Lloegr?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
196. Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw wahaniaethau o ran gweithredu tryloywder gyda pholisïau yswiriant rhwng Cymru a Lloegr?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
197. Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw wahaniaethau yng ngweithrediad y drefn costau ymgyfreitha rhwng Cymru a Lloegr?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
198. Yn eich barn chi, a oes rhesymau pam y dylid mabwysiadu dull arall yng Nghymru sy’n wahanol i’r dull yn Lloegr, mewn perthynas â'r potensial ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol a archwiliwyd yn ail hanner yr ymgynghoriad hwn (y gyfundrefn gwaith mawr, materion tâl gwasanaeth eraill a chymwysterau gofynnol i asiantiaid rheoli eiddo)?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
199. Beth fyddai, yn eich barn chi, effeithiau tebygol y cynigion hyn ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ogystal â sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
200. Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y cynigion hyn fel eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
201. Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y cynigion hyn er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod