Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Cymwysterau asiantiaid rheoli: pontio ac effaith
4.6 Trefniadau Pontio
- Mae gan lawer o asiantiaid rheoli, yn enwedig os ydynt yn perthyn i gorff proffesiynol, eisoes ryw fath o gymwysterau ac eisoes yn bodloni'r safonau arfaethedig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am lawer ohonynt, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weithredu cyfnod pontio i ganiatáu amser i asiantiaid rheoli presennol ennill cymwysterau perthnasol. Wrth wneud hynny, byddem yn ceisio sicrhau nad yw'r gofynion yn rhwystro asiantiaid newydd rhag dod i mewn i'r farchnad trwy eu hatal rhag gweithredu cyn iddynt ennill cymwysterau. Yn benodol, mae llywodraeth y DU eisiau annog prentisiaid, myfyrwyr a hyfforddeion i ddatblygu gyrfaoedd fel asiantiaid rheoli.
- Rydym yn cynnig bod cyfnod pontio o 36 mis yn cael ei roi ar waith o'r dyddiad y bydd deddfwriaeth yn cael ei phasio lle mae'n rhaid i asiantiaid rheoli unigol sicrhau bod ganddynt gymhwyster lefel 4 neu eu bod yn gweithio tuag ato. Byddwwn yn diffinio ‘gweithio tuag ato’ yn y ddeddfwriaeth neu’r polisi perthnasol.
- Pan fo gan asiantiaid rôl gyda llai o gyfrifoldeb ac mae angen cymhwyster lefel 3 arnynt, rydym yn cynnig caniatáu cyfnod pontio o ddwy flynedd i asiantiaid rheoli unigol sicrhau bod ganddynt gymhwyster lefel 3 neu eu bod yn gweithio tuag ato.
- Rydym yn sylweddoli hefyd, dan yr opsiwn a ffefrir, y byddai’n briodol cael cyfnod pontio i ymuno â chorff proffesiynol dynodedig ar gyfer asiantiaid rheoli unigol a chwmnïau asiant rheoli. Rydym o’r farn y gallai’r cyfnod pontio hwn fod yr un fath â’r cyfnod pontio o 36 mis ar gyfer ennill cymwysterau.
4.7 Cymwysterau a enillwyd eisoes
- Mae llawer o asiantiaid wedi ymgymryd â chymwysterau neu’n ymgymryd â chymwysterau sydd eisoes yn cael eu darparu gan y farchnad. Nid ydym am wneud i asiantiaid ymgymryd â hyfforddiant dyblyg neu ddiangen, nac atal asiantiaid rhag ymgymryd â hyfforddiant sydd ar gael nawr, ac felly byddem yn disgwyl, pan fydd asiantiaid eisoes yn meddu ar gymwysterau perthnasol i'r lefel ofynnol neu'n uwch ac sy'n cwmpasu gofynion craidd, na fyddai disgwyl iddynt ymgymryd â hyfforddiant newydd. Fodd bynnag, ni fyddem yn disgwyl y gallai profiad gymryd lle cymhwyster.
- Rydym yn cydnabod y gallai fod rhai achosion lle mae asiantiaid wedi ymgymryd â chymwysterau sydd wedi darparu rhai o'r sgiliau neu ran o’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt. Mewn achosion lle mae asiantiaid yn rhannol gymwys, byddem yn disgwyl i asiantiaid allu 'ychwanegu at' eu cymwysterau presennol trwy ymgymryd â modiwlau unigol ychwanegol, yn hytrach nag ymgymryd â chymhwyster hollol newydd.
4.8 Costau ac Effeithiau
- Rydym yn cydnabod y bydd y cynnig hwn yn arwain at gostau uwch i rai asiantiaid, a fydd yn debygol o gael eu trosglwyddo trwy ffioedd rheoli, er y byddai hyn yn cael ei rannu rhwng llawer o gwsmeriaid sy’n lesddeiliaid ac yn debygol o fod yn gymharol fach. Rydym hefyd yn credu y gall fod gwelliannau gwerth am arian trwy gael asiantiaid rheoli cymwys, galluog, e.e. trwy ennill gwell gwerth am arian trwy gaffaeliadau. Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth bellach am y gost y mae asiantiaid unigol yn mynd iddi i ennill cymhwyster ac i ba raddau y gellir cyflawni arbedion trwy enillion effeithlonrwydd bod yn gymwys. Byddem hefyd yn croesawu gwybodaeth bellach am y gost a’r effaith y gallai’r dulliau gwahanol o orfodi a gynigir ei olygu i unigolion a chwmnïau.
- Hoffem hefyd ddeall costau ac effeithiau tebygol yr ymyrraeth hon ar lefel sector gyfan. I gefnogi hyn, hoffem ddeall cyfran yr asiantiaid rheoli sydd eisoes â chymwysterau ac i ba lefel.