Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn ddigidol

3.6 Darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn ddigidol

  1. Mae'r rhan fwyaf o lesoedd yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei darparu i lesddeiliaid ar bapur drwy'r post. Mae mwy o ddigideiddio yn cynnig arbedion effeithlonrwydd sylweddol, ac mae’n bosib y gallai arbed amser a chost sylweddol i landlordiaid a lesddeiliaid fel ei gilydd (er enghraifft cost argraffu a phostio copïau caled o ddogfennau). Am y rheswm hwn, rydym yn awyddus i sicrhau y dylid darparu mwy o ddogfennau trwy ddulliau electronig os yn bosibl, ac mae ein cynigion ar gyfer gweithredu Deddf 2024 yn ceisio cynyddu hyblygrwydd lle bo modd. Fodd bynnag, rydym yn nodi nad yw gwasanaeth electronig o anghenraid yn briodol ym mhob sefyllfa ac mae yna rai lesddeiliaid sydd angen neu sy'n well ganddynt ddogfennau copi caled. Rhaid felly, fod cydbwysedd gofalus wrth ystyried dull effeithiol o gynnig y gwasanaeth hwn.
  1. Y dull rydym yn ei ffafrio yw cadw'r rhwymedigaethau les presennol fel y sefyllfa ddiofyn. Bydd hyn yn aml yn nodi bod yn rhaid anfon gohebiaeth drwy’r post. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall llawer o lesddeiliaid fod yn fodlon derbyn hysbysiadau galw (a dogfennau eraill) mewn fformat electronig. Felly, byddem yn croesawu barn ar ba gamau pellach y gallwn eu cymryd i hwyluso mwy o ddigideiddio gwasanaethau, yr arbedion posibl y gall ei gynnig a pha fesurau diogelu y gellid eu rhoi ar waith i osgoi anghydfodau, er enghraifft nad oedd dogfennau wedi'u derbyn o gwbl. Un opsiwn yw y dylai lesddeiliaid gael yr hawl i ofyn am gyfathrebu drwy ddulliau electronig a gofyn yn ffurfiol i'r landlord wneud hynny trwy hysbysiad ffurfiol sy'n gofyn am gyfathrebu drwy ddulliau electronig. Os bydd lesddeiliad yn cyflwyno hysbysiad, rhaid i'r landlord wedyn gyflwyno hysbysiadau i’r lesddeiliad hwnnw'n electronig, hyd nes y bydd y lesddeiliad yn ei hysbysu fel arall.
  1. Gallwn hefyd geisio rhoi'r opsiwn i landlordiaid gysylltu â lesddeiliaid i ofyn a fyddai'n well ganddynt, neu a fyddent yn fodlon, derbyn gohebiaeth a dogfennau trwy e-bost yn hytrach na thrwy'r post.  
155. Ydych chi'n meddwl y dylid cyflwyno mwy o ddogfennau neu gyfnewid gohebiaeth rhwng landlordiaid a lesddeiliaid trwy ddulliau electronig?
156. Pa gamau all llywodraethau Cymru a’r DU eu cymryd i annog mwy o ddigideiddio gwasanaethau?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
157. Pa fesurau diogelu ddylai fod ar waith i amddiffyn lesddeiliaid?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod