Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Diogelu arian lesddeiliaid
3.3 Diogelu arian lesddeiliaid
- Mae landlordiaid, ac asiantiaid rheoli sy'n gweithredu ar eu rhan, yn rheoli symiau sylweddol ar ran lesddeiliaid gan gynnwys taliadau gwasanaeth i dalu am weithgareddau cynnal a chadw o ddydd i ddydd, a hefyd yn cadw arian ar gyfer darpar waith. Mae'n debygol y bydd y symiau hyn yn tyfu wrth i lefel y tâl gwasanaeth godi ac wrth i fwy o flociau gyflwyno cronfeydd wrth gefn.
- Mae'n bwysig bod cronfeydd lesddeiliaid yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn ddiogel, a bod landlordiaid ac asiantiaid rheoli yn dryloyw wrth ymdrin ag arian lesddeiliaid. Mae deddfwriaeth bresennol, a nodir o dan Adran 42 Deddf Landlord a Thenant 1987 ("Deddf 1987"), yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord (ac eithrio'r rhai sydd wedi'u heithrio, e.e. awdurdod lleol) ddal holl gronfeydd arian cleientiaid mewn ymddiriedolaeth, ac mewn sefydliad ariannol a awdurdodir o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.
- Mae'r dull presennol yn ceisio sicrhau bod arian a gedwir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer talu treuliau tâl gwasanaeth yn unig, a'u bod yn cael eu trin ar wahân i asedau eraill y landlord. Mae hefyd yn darparu mwy o amddiffyniad i lesddeiliaid mewn achosion o fethdaliad neu anghydfod. Mae defnyddio arian tâl gwasanaeth at ddibenion heblaw'r rhai a nodir yn y les, ac er enghraifft, defnyddio arian tâl gwasanaeth o un bloc i dalu biliau un arall yn gyfystyr â thorri ymddiriedaeth.
- Serch hynny, mae gan bartïon sy'n dal arian lesddeiliaid hyblygrwydd sylweddol o ran sut maen nhw'n rheoli'r symiau maen nhw'n eu derbyn. Er enghraifft, gallant sefydlu cyfrif cleient ar wahân ar gyfer pob bloc o fflatiau maen nhw'n eu rheoli, neu gallant greu un cyfrif cyffredinol ar gyfer pob bloc. Gall aelodau cyrff proffesiynol hefyd fod â chyfyngiadau eraill ar waith ar gyfer eu haelodau.
- Trwy'r darpariaethau newydd ar gyfer hysbysiadau galw am dâl gwasanaeth ac adroddiadau blynyddol o dan Ddeddf 2024, bydd angen i landlordiaid ac asiantiaid rheoli roi sicrwydd i lesddeiliaid bod holl gronfeydd arian cleientiaid yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth. Ar ben hynny, os gofynnir iddynt, bydd yn ofynnol i landlordiaid ddarparu tystiolaeth bod hyn yn wir. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn llythyr gan y sefydliad ariannol sy'n dal arian i gadarnhau bod yr arian yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth.
- Rydym yn awyddus i ddeall a yw'r fframwaith rheoleiddio presennol yn ddigon cadarn, neu a oes meysydd lle mae angen gwelliannau neu ddulliau amgen. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn barn yng ngoleuni'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer llawer mwy o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn, a fydd yn golygu bod mwy o arian lesddeiliaid yn cael ei ddal gan landlordiaid.
- Nid yw adran 42A Deddf 1987, a gyflwynwyd gan Adran 156 Deddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002, wedi'i gweithredu eto. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantiaid rheoli ddal arian tâl gwasanaeth gan grwpiau ar wahân o dalwyr tâl gwasanaeth mewn cyfrifon ar wahân dynodedig (yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig fel landlordiaid awdurdodau lleol). Ystyrir bod y cyfrifon hyn yn ddynodedig os yw'r landlord wedi hysbysu sefydliad ariannol perthnasol yn y DU yn ysgrifenedig bod symiau sydd i’w credydu yn y gronfa ymddiriedolaeth i'w cadw ynddi, nad oes unrhyw gronfeydd eraill yn cael eu cadw yn y cyfrif, a bod y cyfrif o natur a ddisgrifir ac a bennir mewn rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru.
- Mae nifer o resymau pam nad yw'r darpariaethau hyn wedi'u deddfu eto, gan gynnwys pryderon am y gost weinyddol a'r rhwymedigaethau cyffredinol sy'n wynebu landlordiaid ac asiantiaid rheoli, yn ogystal â phryderon o ran y gallu i’w cyflawni a'u heffaith ar sector ariannol y DU wrth wynebu’r posibiliad o sefydlu miloedd lawer o gyfrifon newydd o fewn cyfnod byr o amser. Fodd bynnag, byddem yn croesawu barn ynghylch a ydych yn cytuno bod pwrpas Adran 42A yn gadarn ac, pe baem yn penderfynu cyflwyno'r darpariaethau hyn, pa newidiadau i'r drefn bresennol fyddai eu hangen i wneud i’r cyfan weithio'n effeithiol.
- Rydym hefyd yn agored i gynigion newydd ar sut i sicrhau bod arian tâl gwasanaeth yn cael ei gadw'n ddiogel, yn enwedig dulliau sy'n gost-effeithiol, cymesur ac effeithiol i gefnogi'r rhai sydd â'r dasg o gasglu a gwarchod arian tâl gwasanaeth.