Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Diwygio'r broses ymgynghori ar waith mawr

3.2 Diwygio'r broses ymgynghori ar waith mawr

  1. Gyda mwy o rybudd (trwy wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad blynyddol newydd, adran 2.1) o waith mawr a gwell modd (trwy fwy o ddefnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn, fel y cynigir yn adran 3.1) o dalu costau’r gwaith hwnnw, dylai lesddeiliaid wynebu llai o filiau untro heb eu cynllunio.
  1. Dylai lesddeiliaid barhau i gael eu hysbysu am waith mawr a dylid parhau i ymgynghori â hwy, fel y gallant ddylanwadu ar ba waith sy'n cael ei wneud, pryd a chan bwy. Yma rydym yn nodi cynigion i symleiddio a gwella'r broses ymgynghori ynghylch gwaith mawr fel ei bod yn gymesur ac yn berthnasol.

i) Cwmpas a throthwy

  1. Mae achos cryf dros godi'r trothwy ariannol ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i ymgynghoriad gwaith mawr gael ei gynnal, sydd wedi aros yn ddigyfnewid, sef £250 fesul lesddeiliad ers 2003 (neu 2004 yng Nghymru). Oherwydd newidiadau yng ngwerth arian dros amser, mae'n dod â mân atgyweiriadau a gweithgareddau chynnal a chadw bach i mewn i gwmpas nad oedd wedi'i fwriadu. Er enghraifft, byddai angen ymgynghoriad llawn ar floc o 12 fflat lesddaliad, a all bara hyd at 3 mis, ar hyn o bryd i amnewid drws mynediad cymunedol metel safonol sy'n costio cyfanswm o £3,000 (ond dim ond £250 y fflat). Byddai codi'r trothwy yn caniatáu i atgyweiriadau cymharol fach a syml fel y rhain gael eu gwneud ar unwaith. Byddai hefyd yn caniatáu i ymgynghoriadau statudol ganolbwyntio ar 'waith mawr' gwirioneddol, sef y bwriad gwreiddiol.
  1. Mae ansicrwydd hefyd ynglŷn â'r hyn sy'n cyfrif fel 'gwaith cymwys' at ddibenion ymgynghori. Yn benodol p'un a yw’n cynnwys costau cysylltiedig, megis costau cyfreithiol, ffioedd syrfëwr neu beiriannydd, yn ogystal â'r gwaith ei hun. Mae hyn wedi arwain at gyfraith achos sylweddol ar y mater. Er mwyn osgoi amheuaeth, rydym yn cynnig egluro'r diffiniad o waith mawr fel bod 'gwaith cymwys' yn ymestyn i'r costau cysylltiedig eraill hyn.
  1. Byddai uwchraddio’r trothwy yn unol â phrisiau heddiw yn ei godi o £250 i oddeutu £450 i £500. Yn yr un modd, byddai uwchraddio Cytundebau Tymor Hir Cymwys (QLTAs) yn golygu codi'r trothwy o £100 i oddeutu £175 i £200. Gan ystyried ein bod yn ffafrio cynnwys ffioedd cysylltiedig, rydym yn cynnig gosod y trothwy hyd yn oed yn uwch. Am y rheswm hwn, rydym yn cynnig uwchraddio’r trothwy y mae angen ymgynghoriadau Adran 20 arno i £600 ar gyfer gwaith mawr fesul lesddeiliad a £300 ar gyfer Cytundebau Tymor Hir Cymwys fesul lesddeiliad.
  1. Mae cwmpas y gweithgareddau sy’n dod o dan y drefn ymgynghori bresennol ar waith mawr wedi'i nodi yn rheoliadau 2003 a 2004. Mae bron pob contract a gwasanaeth wedi'i gynnwys (megis llogi asiantiaid rheoli, prynu contractwyr i mewn i wneud gwaith adnewyddu, neu gaffael cyfleustodau fel trydan ar gyfer ardaloedd cymunedol). Mae gweithgareddau sydd wedi'u heithrio yn cynnwys contractau cyflogaeth neu drefniadau contractiol penodol iawn eraill (megis cytundebau rhwng awdurdod lleol a sefydliad rheolaeth tenantiaid).
  1. Hoffem farn ynghylch a ddylai'r eithriadau presennol o'r broses ymgynghori ar waith mawr aros neu gael eu newid. Credwn fod achos dros ehangu'r eithriadau mewn dau amgylchiad:
    1. Contractau ynni. Anogir landlordiaid neu asiantiaid rheoli i siopa o gwmpas i sicrhau'r fargen sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian iddyn nhw eu hunain a'u lesddeiliaid. Fodd bynnag, mae'r farchnad ynni yn symud yn gyflym, ac mae llawer o dariffau a chontractau yn cael eu cynnig am amser cyfyngedig (weithiau'n para dim ond diwrnod). Yn gyffredinol, mae gan gontractau sy’n para’n hirach brisiau uwch. Felly, er mwyn cael y fargen orau, bydd yn rhaid i'r landlord naill ai geisio goddefeb ymhell ymlaen llaw neu, fel arall, dibynnu ar gontractau 12 mis sy'n aml yn cael eu gosod am bris uwch.
    2. Darparwyr cyfleustodau sengl. Efallai y bydd amgylchiadau, oherwydd natur y diwydiant, lle mai dim ond un darparwr all ddarparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys rhwydweithiau gwres lle mai dim ond un darparwr sydd ar gael.
  2. Nid yw'r naill drefniant na'r llall yn gydnaws â'r drefn bresennol ar gyfer ymgynghori ar waith mawr a gall ychwanegu cost ddiangen i lesddeiliaid a landlordiaid fel ei gilydd. Rydym yn cynnig bod sail i eithrio darparwyr cyfleustodau sy'n bodloni'r gofynion uchod.
  1. Gydag eithriadau o'r fath, credwn y dylai fod lefelau priodol o dryloywder i'r lesddeiliad ynglŷn â'r contractau yr ymrwymwyd iddynt, fel y gallant ddeall y trefniadau a herio landlordiaid lle maent yn teimlo bod contract yn afresymol neu nad yw'n cynnig gwerth am arian. Un ffordd o gefnogi hyn yw ei gwneud yn ofynnol, ar gyfer contractau ynni yn benodol, bod lesddeiliaid yn cael eu hysbysu am: 
    1. Manylion y darparwyr y cysylltwyd â hwy, a dyfynbrisiau a gafwyd;
    2. Manylion y contractwr a ddewiswyd, cyfanswm cost a hyd y cytundeb; a 
    3. Datgelu unrhyw gysylltiad rhwng y landlord ac unrhyw frocer neu ddarparwr

ii) Cytundebau cymwys tymor hir

  1. Mae gan lawer o landlordiaid, ond yn enwedig landlordiaid awdurdodau lleol, gontractau sy'n para mwy na 12 mis ac felly yn gymwys fel cytundebau cymwys tymor hir. Mae'r rhain yn aml yn cwmpasu contractau ar gyfer atgyweiriadau cyffredinol a gwaith rheolaidd wedi’i gynllunio i gynnal a chadw adeiladau.
  1. Mae gwerth y cytundeb cymwys tymor hir yn pennu'r llwybr caffael. Ar gyfer rhai contractau, rhaid i awdurdodau lleol dendro am y gwaith yn unol â deddfwriaeth caffael cyhoeddus. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n ofynnol i'r landlord gynnal proses dyfarnu contract gystadleuol sy'n seiliedig ar feini prawf gwrthrychol, perthnasol a chymesur.
  1. Mae Atodlen 3 i Reoliadau 2003 (a Rheoliadau 2004 yng Nghymru) yn darparu ar gyfer pryd y cytunwyd ar gytundeb cymwys tymor hir o dan reolau caffael cyhoeddus ac eto mae'r gost i lesddeiliad unigol yn bodloni'r trothwy ar gyfer gwaith cymwys. Yma, mae’r rhwymedigaeth ar landlordiaid i ddarparu hysbysiad sy'n nodi: 
    1. Pa waith sydd angen ei wneud, a pham; 
    2. Y costau amcangyfrifedig; a
    3. Sut y gall lesddeiliaid wneud sylwadau ac archwilio dogfennau.

Mae'n ofynnol i'r landlord roi sylw i unrhyw un o'r sylwadau hyn.

  1. Pan ddefnyddir y llwybr caffael cyhoeddus, bydd angen i lesddeiliaid ddibynnu ar ymgysylltiad yn y broses honno, yn hytrach na'r broses cytundebau cymwys tymor hir, os ydynt am ddylanwadu ar bwy sy'n cyflawni'r gwaith. Rydym yn deall mai ychydig o lesddeiliaid sy’n ymwneud â'r broses gaffael gyhoeddus fel arfer, ac mae'r diffyg cyfranogiad a'r her hon wedi bod yn achos pryder i lesddeiliaid sy'n teimlo na allant gymryd rhan yn y broses. 
  1. Unwaith y bydd cytundeb cymwys tymor hir wedi'i lofnodi, nid oes unrhyw gyfle i ddylanwadu ar ddewis contractwr. Nid oes llawer o gymhellion i'r contractwr sicrhau’r costau lleiaf posibl – mae hyn yn golygu bod risg y bydd costau’n chwyddo trwy, er enghraifft, is-gontractio lluosog (pob un â photensial i ychwanegu ffioedd rheoli prosiect). Yn yr un modd, nid oes unrhyw gyfle i dorri'r contract a dewis cyflenwr newydd heb iawndal neu, os oes cytundeb fframwaith ar waith, nad oes unrhyw gontractwyr sy'n barod i gynnig am y gwaith.
  1. Byddem yn croesawu barn ar sut mae'r broses cytundebau cymwys tymor hir yn gweithio yn ymarferol a sut y gellid ei gwella. Un opsiwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o fwriad y landlord i ddefnyddio'r broses cytundeb cymwys tymor hir, a fyddai'n galluogi lesddeiliaid i ymgysylltu â hi. Er enghraifft:
      1. Ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi hysbysiad ymlaen llaw o'r bwriad i gaffael lle bo hynny'n bosibl o dan yr adroddiad blynyddol arfaethedig a fydd yn ofynnol gan Adran 21E Deddf 1985; a/neu
      2. Sicrhau bod darpar lesddeiliaid sy'n dymuno prynu eiddo lesddaliadol yn cael eu gwneud yn ymwybodol o bresenoldeb unrhyw gytundeb cymwys tymor hir.
  2. Opsiwn arall fyddai cyfyngu ar dymor unrhyw gytundeb cymwys tymor hir. Ar hyn o bryd gyda chytundebau cymwys tymor hir, mae landlordiaid yn gallu gweithredu i osgoi’r terfyn amser o 12 mis, sy'n golygu y gallant osgoi cynnal ymgynghoriad cytundeb cymwys tymor hir. Mae cyfraith achosion wedi egluro mai dyma'r cyfnod cychwynnol sy'n diffinio a yw contract yn gytundeb cymwys tymor hir ai peidio, ac felly, trwy osod y contract cychwynnol ychydig yn fyr o flwyddyn, mae landlordiaid yn gallu rhoi contract newydd sbon i'r un darparwr. Mae hyn yn caniatáu i'r un person neu gwmni gael ei gyflogi am flynyddoedd lawer heb unrhyw asesiad real neu dryloyw o werth am arian. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, gallem gyfyngu ar uchafswm tymor cytundeb cymwys tymor hir fel bod yn rhaid i landlordiaid, o leiaf, brofi'r gwasanaeth yn y farchnad o bryd i’w gilydd (e.e. bob pum mlynedd). Ni fyddai hyn yn berthnasol i gontractau a osodir o dan reolau caffael cyhoeddus gan eu bod yn destun cystadleuaeth fwy agored.

iii) Trefniadau newydd

  1. Mae'r mwyafrif o ymgynghoriadau gwaith mawr yn gofyn am ddau gam (gweler Atodiad H). Gall y broses hon weithiau gymryd gormod o amser, ac nid yw’n grymuso lesddeiliaid fel y bwriadwyd. Yn hytrach na diddymu'r broses dau gam, credwn fod lle i wneud nifer o welliannau iddi fel y nodir isod.

a) Gorchymyn defnyddio ffurflenni safonedig.

  1. Rydym yn cynnig creu mandad i ddefnyddio ffurflenni safonedig y mae'n rhaid i landlordiaid (neu asiantiaid rheoli) eu darparu i lesddeiliaid. Byddai hyn yn ceisio eu helpu i ddeall pa waith sy'n cael ei gynnig, pryd y bydd yn debygol o ddigwydd, ac a yw costau'r gwaith yn debygol o gael eu cwmpasu'n llawn neu'n rhannol gan unrhyw arian a gedwir mewn cronfa wrth gefn (ac os yn rhannol, i ba raddau). Gallai hefyd ddarparu lle ar gyfer arsylwadau, megis unrhyw darfu arfaethedig y gallai lesddeiliaid elwa o wybod amdano (e.e. os efallai na fydd rhai ardaloedd o’r adeilad neu asedau penodol, fel lifft, yn hygyrch am gyfnod o amser). Byddai mwy o wybodaeth am sut y bydd gwaith mawr yn effeithio ar lesddeiliaid yn ceisio meithrin mwy o ymgysylltiad a chyfranogiad gan fwy o lesddeiliaid yn y broses ymgynghori. Er enghraifft, gallai'r hysbysiadau gynnwys:

Hysbysiad o fwriad

  1. Disgrifiad o'r gwaith;
  2. Costau – darparu amcangyfrif cychwynnol o gostau (gan gynnwys costau ychwanegol);
  3. Ariannu – egluro os yw o gronfeydd wrth gefn; cyfran gymharol o gyfanswm y gost;
  4. Llinell amser – amserlenni bras: dyddiad cychwyn, hyd, pryd y gallai fod angen arian ychwanegol;
  5. Enwebiadau contractwyr – nodi gofyniad gofynnol ar gyfer enwebu contractwr (e.e. lefel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, achrediadau a chymwysterau gofynnol, polisi iechyd a diogelwch, geirdaon ac ati);
  6. Annog cyfranogiad/ymgysylltiad – ble i ofyn am ragor o wybodaeth ac anfon sylwadau;
  7. Arsylwadau – e.e. ynghylch tarfu posibl neu fynediad cyfyngedig i asedau neu rannau o'r safle.

Hysbysiad o Amcangyfrifon

  1. Disgrifiad – unrhyw newidiadau mawr i'r cynnig gwreiddiol;
  2. Costau – costau terfynol (gan gynnwys TAW);
  3. Cyfraniadau disgwyliedig gan lesddeiliaid – pa gyfran o'r costau (llai unrhyw gronfa wrth gefn) y maent yn atebol amdani;
  4. Llinellau amser – Amserlenni wedi'u diweddaru.

b) Cyflymu'r broses ymgynghori

  1. Gallem gyflymu'r broses ymgynghori. Ar hyn o bryd, mae gan lesddeiliaid 30 diwrnod ar ddau gam yr ymgynghoriad i ymateb i unrhyw bryderon, a gallant hefyd archwilio unrhyw ddogfennau yn y cyfnodau hyn. Bydd byrhau'r dyddiad cau yn cyflymu'r broses ac, os yw lesddeiliaid yn cael eu rhybuddio'n ddigonol am waith sydd i'w wneud, ni fydd yn effeithio'n negyddol ar faint nac ansawdd yr ymatebion. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod yr ymgynghoriad yn rhoi digon o amser i lesddeiliaid ystyried cynigion yn briodol. At ei gilydd, byddem yn croesawu barn ar fanteision ac anfanteision byrhau'r cyfnod ymgynghori i 21 diwrnod ar ddau gam y broses.

c) Gosod terfyn amser i ddechrau’r gwaith 

  1. Weithiau ni all gwaith ddechrau am beth amser ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Yn ystod y cyfnod hwn efallai y bydd rhai preswylwyr naill ai wedi anghofio am y gwaith neu wedi symud ymlaen, gyda thrigolion sy'n dod i mewn yn anymwybodol o'r sefyllfa bresennol ac sydd wedyn yn wynebu bil sydyn am waith. Canlyniad pellach yw po hiraf yw'r oedi, yr uchaf yw'r risg o gostau uwch.
  1. Er mwyn annog landlordiaid i ddechrau gwaith mawr yn amserol ar ôl ymgynghori, byddem yn croesawu barn ar rinweddau ei gwneud yn ofynnol bod gwaith yn dechrau o fewn terfyn amser penodol o hysbysiad terfynol dyfarnu contract. Os nad yw'r gwaith yn dechrau tan ar ôl yr amser hwn, yna rhaid cynnal y broses ymgynghori eto ond gallai fod am gyfnod byrrach o amser os yw'r un gwaith yn cael ei wneud. Rydym yn credu y gallai cyfnod amser synhwyrol fod o fewn 12 mis, gyda lesddeiliaid yn cael eu hysbysu am gynnydd trwy'r adroddiad blynyddol. Byddwn yn croesawu sylwadau. 

d) Ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i dderbyn gwybodaeth

  1. Ystyriaeth bellach yw sut mae'r wybodaeth yn cael ei darparu. Yn aml, bydd gan lawer o dderbynyddion hawl i weld dogfennau perthnasol. Ar hyn o bryd, rhaid darparu popeth ar ffurf copi caled a'i anfon trwy'r post. Mae hyn yn ddibynadwy, ond hefyd yn cymryd llawer o amser ac yn ddrud o'i gymharu â darparu gwybodaeth yn electronig.
  1. Er mwyn sicrhau bod yr holl lesddeiliaid yn gallu cael mynediad at wybodaeth, credwn y dylai derbyn dogfennau trwy'r post barhau i fod yn opsiwn i'r rhai nad ydynt yn dymuno neu nad ydynt yn gallu derbyn cyfathrebiadau electronig. Fodd bynnag, mae yna arbedion effeithlonrwydd posibl wrth anfon dogfennau yn electronig, ac felly mae gennym ddiddordeb mewn barn ar ganiatáu cyfathrebu dogfennau trwy e-bost yn amodol ar gytundeb y lesddeiliad.

iv) Gwell ymgysylltu â lesddeiliaid lle mae yna landlord canolradd

  1. Pan fo landlord canolradd yn ei le, ymgynghorir â nhw'n uniongyrchol gan landlord (y 'pen-lesddeiliaid') yr adeilad fel rhan o'r broses Adran 20 gwaith mawr. Mae hyn yn golygu nad oes gan lesddeiliaid yn y sefyllfaoedd hyn, ac sy'n aml yn parhau i fod yn atebol i dalu tuag at y gwaith, unrhyw hawliau na rôl yn y broses ymgynghori.
  1. Credwn y dylai'r lesddeiliad sy'n berchen ar y fflat gael yr hawl i gymryd rhan yn y broses Adran 20. Mae hyn yn golygu y bydd angen i landlord yr adeilad wybod manylion y lesddeiliad preswyl er mwyn darparu manylion am y gwaith arfaethedig.
  1. Er mwyn galluogi hyn, credwn mai'r dull symlaf yw gosod rhwymedigaeth ar y landlord canolradd i hysbysu landlord yr adeilad ar y dechrau a phob tro y bydd newid mewn perchnogaeth ar les fflat. Bydd hyn yn osgoi gorfodi’r landlord i wirio bob tro y mae angen iddynt gyhoeddi hysbysiad.

v) Egluro’r rheolau ynghylch goddefeb

  1. Gall landlordiaid wneud cais i'r tribiwnlys priodol i allu hepgor y gofynion i ymgynghori. Gallai hyn fod i gyflawni gwaith yn gyflymach oherwydd argyfwng, megis mynd i'r afael â mater diogelwch neu ddiogeledd dybryd a allai effeithio ar allu lesddeiliaid i fyw yn yr adeilad (megis difrod strwythurol annisgwyl, gollyngiadau difrifol neu amnewid to sydd wedi'i ddifrodi gan y tywydd). Mae'n rhaid i'r tribiwnlys priodol benderfynu a ddylid rhoi goddefeb ar sail unigol ai peidio.
  1. Dylanwadwyd ar effaith y trefniadau presennol gan benderfyniad y Goruchaf Lys yn 2013, Daejan vs Benson Investments Ltd. Gwnaeth yr achos hwn nifer o sylwadau beirniadol am yr achos dros ganiatáu goddefeb a phwrpas ymgynghoriadau Adran 20 yn fwy cyffredinol.
  1. Penderfynodd y Goruchaf Lys mai'r prif ffactor wrth ystyried goddefeb, yw unrhyw niwed ariannol a ddioddefir gan y lesddeiliad oherwydd methiant y landlord i ymgynghori'n briodol. Felly, nid yw'r broses ymgynghori i'w gweld fel diben ynddo'i hun, ond fel rhan o'r drafodaeth gyffredinol ynghylch a oedd y tâl gwasanaeth y gofynnir amdano yn rhesymol ai peidio. O ganlyniad, symudodd y baich profi o landlordiaid i lesddeiliaid, sydd bellach yn gorfod dangos eu bod wedi dioddef niwed o'r methiant i ymgynghori. Os yn llwyddiannus, mae gan y landlord y pŵer o hyd i wrthbrofi eu honiad. Os nad oedd methiant y landlord i ymgynghori yn effeithio ar gwmpas, ansawdd neu gostau'r gwaith, gellir caniatáu goddefeb o hyd, er gwaethaf difrifoldeb y toriad. Mae'r tribiwnlys priodol hefyd yn disgwyl i lesddeiliaid nodi pa sylwadau y byddent wedi'u gwneud pe baent wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol, yn y bôn ail-greu’r hyn a fyddai wedi digwydd yn y broses ymgynghori.
  1. O ganlyniad, mae goddefeb wedi cael ei rhoi yn aml, gan danseilio'r amddiffyniadau y bwriadwyd i'r broses Adran 20 eu darparu. Rydym yn credu bod gwerth cadw'r broses ymgynghori ar gyfer gwaith mawr ac rydym yn bwriadu deddfu i egluro'r ddeddfwriaeth i sicrhau mai dim ond pan fo'n briodol y caiff goddefeb ei rhoi.
  1. Rydym yn ceisio barn ar nifer o welliannau posibl i'r weithdrefn rhoi goddefeb. Er enghraifft:
    1. Newid deddfwriaeth bresennol i'w gwneud yn glir bod yn rhaid i'r tribiwnlys priodol ystyried i ba raddau y ceisiodd y landlord ymgynghori â lesddeiliaid yn ffurfiol, wrth benderfynu a ddylid rhoi goddefeb; a
    2. Gosod sail glir ar gyfer pryd y gellir cyfiawnhau goddefeb. Gallai hyn gynnwys gwaith brys y mae'n rhaid ei wneud er budd iechyd a diogelwch unigolion sy'n byw yn yr adeilad, neu sy'n peryglu cyfanrwydd strwythurol yr adeilad.
  2. Rydym hefyd yn bwriadu cynnig eithriad o'r angen i geisio goddefeb os yw nifer ddigonol o lesddeiliaid a'r landlord yn cytuno nad oes angen ymgynghoriad – 'goddefeb fwyafrifol'. Er enghraifft, mewn bloc bach lle mae'r landlord a'r holl lesddeiliaid yn cytuno â'r gwaith arfaethedig ac yn bwriadu bwrw ymlaen ag ef (e.e. bloc bach dan arweiniad preswylwyr, fel Cwmni Rheoli Preswylwyr). Byddai'n bwysig bod proses briodol a digon o drywydd archwilio i gadarnhau mai ewyllys y mwyafrif oedd hyn. Byddai hyn yn ofynnol er mwyn osgoi anghydfodau neu bobl yn newid eu meddyliau ar ôl y digwyddiad ac yn herio'r diffyg ymgynghoriad. Er mwyn i drefniant o'r fath weithio'n effeithiol ac yn deg, byddem yn croesawu barn ynghylch a ddylid defnyddio'r meini prawf canlynol cyn y gallai 'goddefeb fwyafrifol' fynd rhagddi:
    1. Dylai unrhyw gytundeb gan lesddeiliaid i osgoi goddefeb ddigwydd cyn i'r gwaith gael ei wneud;
    2. Dylid gosod trothwy uchel ar gyfer hepgor yr hawl hon. Er enghraifft, byddai angen iddo fod o leiaf 85-90% o'r holl lesddeiliaid sy'n talu tuag at y gwaith mawr;
    3. Er mwyn creu trywydd archwilio clir, byddai angen i landlordiaid baratoi "dogfen gydsynio ragnodedig" i nodi telerau'r cytundeb a'r gwaith y mae goddefeb wedi'i hepgor ar ei gyfer.

vi) Sylwadau eraill

  1. Mae'r cynigion yn yr adran hon yn ceisio gwella'r trefniadau presennol. Fodd bynnag, rydym yn agored i syniadau amgen i gefnogi lesddeiliaid a landlordiaid. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau cyffredinol am broses Adran 20, unrhyw agwedd arall ar y drefn nad yw'n cael ei chrybwyll uchod, yn ogystal â chynigion ar gyfer cyfundrefn amgen, neu newidiadau eraill i'r drefn bresennol y dylem eu gwneud. 
 
128. A ydych chi'n cytuno y dylai'r trothwy newid i £600 ar gyfer gwaith mawr a £300 ar gyfer Cytundebau Tymor Hir Cymwys?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
129. A ddylid tynnu contractau ynni a chyfleustodau eraill, yn ogystal â darparwyr ynni sengl, allan o'r broses ymgynghori Adran 20 os ydynt yn bodloni meini prawf penodol a nodir ym mharagraff 234?
130. A oes unrhyw weithgareddau eraill y dylid eu tynnu o'r broses Adran 20?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
131. Lle mae gweithgareddau presennol yn cael eu tynnu allan o'r broses Adran 20 – a ydych chi'n ystyried y dylai fod mecanwaith lle mae lesddeiliaid yn cael eu hysbysu o'r costau hyn?
132. Beth yw eich profiadau o gytundebau cymwys tymor hir?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
133. Pa awgrymiadau sydd gennych i wella'r trefniadau ymgynghori ar gyfer lesddeiliaid lle mae cytundeb cymwys tymor hir ar waith?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
134. A ddylai rhai contractau fod yn destun profion yn y farchnad yn rheolaidd – er enghraifft, bob 5 mlynedd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
135. Pa un o'r opsiynau canlynol ydych chi'n meddwl fydd yn cyflymu'r broses ymgynghori?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
136. Pa newidiadau pellach i'r mesurau arfaethedig, neu fel arall, y dylem eu gwneud i wella'r broses?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
137. A ydych chi'n cytuno, lle mae landlordiaid canolradd yn eu lle, y dylid ymgynghori â'r lesddeiliad preswyl a'r landlord canolradd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
138. Ydych chi’n cytuno â’r cynlluniau ar gyfer diwygio’r trefniadau presennol ar gyfer goddefeb?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
139. Pa gynigion eraill fyddech chi'n eu hargymell i ni eu gweithredu er mwyn diwygio’r trefniadau ar gyfer goddefeb?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
140. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y broses gwaith mawr y dylid eu hystyried?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod