Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Costau ymgyfreitha: trosglwyddo i'r drefn costau ymgyfreitha newydd
x) Pontio i'r drefn costau ymgyfreitha newydd
- Bydd angen amser ar landlordiaid, lesddeiliaid a'r sector yn fwy cyffredinol i addasu i'r darpariaethau newydd ynghylch costau ymgyfreitha. Yn fwyaf nodedig, bydd angen i ni sicrhau bod polisi cadarn ar gyfer sut y bydd y mesurau hyn yn dod i rym ar gyfer achosion sydd eisoes yn y llysoedd, a bod cyfle cyfyngedig ar gyfer camddefnyddio neu gamdrafod.
- Ein barn gychwynnol yw y dylid gosod dyddiad sydd rhywfaint o amser ar ôl i'r rheoliadau sy'n dod â'r mesurau hyn i rym gael eu gwneud, a dylid trin unrhyw geisiadau a wneir ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel rhai sy'n cael eu gwneud o dan y rheolau newydd a gyflwynwyd yn Neddf 2024. Byddai ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwn yn cael eu trin o dan y rheolau presennol, ac achosion yn parhau hyd nes eu bod wedi eu cwblhau.