Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Costau ymgyfreitha: cynnig ar gyfer hawl lesddeiliaid i wneud cais i hawlio eu costau ymgyfreitha gan eu landlord
ix) Cynnig ar gyfer y mathau o achosion y dylai hawl lesddeiliaid i wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys am eu costau ymgyfreitha fod yn berthnasol iddynt
- Mae Deddf 2024 yn nodi bod teler ymhlyg ymhob les sy’n rhoi hawl newydd i lesddeiliaid wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol i adennill eu costau ymgyfreitha gan eu landlord. Yn debyg i gais landlord i adennill eu costau ymgyfreitha trwy'r tâl gwasanaeth neu fel tâl gweinyddol, bydd y llys neu'r tribiwnlys perthnasol yn gwneud penderfyniad ar gostau y mae'n eu hystyried yn gyfiawn ac yn deg yn yr amgylchiadau a bydd rheoliadau yn nodi materion y mae'n rhaid i'r llys neu'r tribiwnlys eu hystyried wrth wneud gorchymyn.
- Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y bydd lesddeiliaid ond yn gallu gwneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys i hawlio eu costau ymgyfreitha gan eu landlord pan fo "achosion perthnasol" ynglŷn â'r les. Ymhlith pethau eraill, rhaid i "achosion perthnasol" fod yn rhai y mae landlord a lesddeiliad ill dau yn barti iddynt; yn ymwneud â les annedd y mae'r landlord hwnnw a'r lesddeiliad hwnnw ill dau yn barti iddi; ac yn ymwneud â mater o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Bydd y rheoliadau hyn yn ceisio sicrhau bod hawl lesddeiliaid i wneud cais i hawlio eu costau ymgyfreitha gan eu landlord yn cyd-fynd yn fras â'r hawl i adennill costau ymgyfreitha yr ydym yn deall bod llawer o landlordiaid yn gallu eu hadennill o dan delerau'r les.
- Isod yn Nhabl 2 a Thabl 3, mae rhestrau o achosion (wedi'u rhannu'n hawliadau a wneir yn gyffredinol yn y llys sifil a cheisiadau a wneir yn gyffredinol yn y tribiwnlys perthnasol – er y gellir ymdrin â rhai achosion gerbron y naill lys/tribiwnlys neu'r llall) yr ydym yn bwriadu eu cynnwys yn y rheoliadau a fydd yn nodi'r mathau o achosion y mae'n rhaid i'r achosion perthnasol ymwneud â nhw er mwyn i hawl lesddeiliad i dderbyn costau fod yn berthnasol.
Tabl 2. Achosion a wneir yn gyffredinol yn y llys sifil
Mater |
Math o hawliad |
Lesddeiliad yn gwneud neu'n amddiffyn hawliad, gan gynnwys apeliadau |
Meddiant a fforffediad |
Torri cyfamod |
Amddiffyn hawliad a wnaed gan landlord |
Ôl-ddyledion (gallai hyn gynnwys ôl-ddyledion tâl gwasanaeth, tâl gweinyddol neu rent tir) |
Torri cyfamod |
Amddiffyn hawliad a wnaed gan landlord |
Torri agwedd arall ar y les |
Torri cyfamod |
Gwneud hawliad neu amddiffyn hawliad a wnaed gan landlord |
Honiadau niwsans |
Torri cyfamod |
Gwneud hawliad neu amddiffyn hawliad a wnaed gan y landlord |
Landlord yn gwrthod caniatâd ar gyfer gwelliannau yn afresymol (Adran 19(2) Deddf Landlord a Thenant 1927) |
Torri cyfamod/dyletswydd statudol |
Gwneud hawliad yn erbyn y landlord |
Arian tâl gwasanaeth nad yw'n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth (Adran 42 Deddf Landlord a Thenant 1987) |
Torri ymddiriedaeth/dyletswydd statudol |
Gwneud hawliad yn erbyn y landlord |
Tabl 3. Ceisiadau a wneir yn gyffredinol yn y tribiwnlys perthnasol
Mater |
Math o gais |
Lesddeiliaid yn gwneud cais neu'n gwrthwynebu cais a wneir gan landlord, gan gynnwys apeliadau |
Penderfynu ar dorri cyfamod neu amod |
Adran 168, Deddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002 |
Gwrthwynebu cais a wnaed gan landlord
|
Rhesymoldeb tâl gwasanaeth |
Adran 19, Deddf Landlord a Thenant 1985 |
Gwneud cais |
Atebolrwydd i dalu tâl gwasanaeth |
Adran 27A, Deddf Landlord a Thenant 1985 |
Gwneud cais |
Gorfodi dyletswyddau sy'n ymwneud â thaliadau gwasanaeth (heb eu dwyn i rym eto) |
Adran 58, Deddf 2024 |
Gwneud cais |
Rhesymoldeb tâl gweinyddol |
Paragraff 2, Atodlen 11, Deddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002 |
Gwneud cais |
Atebolrwydd i dalu taliadau gweinyddol |
Paragraff 5, Atodlen 11, Deddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002 |
Gwneud cais |
Gorfodi dyletswydd i gyhoeddi atodlenni tâl gweinyddol (heb eu dwyn i rym eto) |
Adran 61, Deddf 2024 |
Gwneud cais |
Her i yswiriwr enwebedig landlord (lle mae les yn ei gwneud yn ofynnol i'r lesddeiliad yswirio'r eiddo gydag yswiriwr a enwebir gan y landlord) |
Paragraff 8 o'r Atodlen, Deddf Landlord a Thenant 1985 |
Gwneud cais neu'n gwrthwynebu cais a wneir gan landlord |
Hawl i hawlio pan fo costau yswiriant wedi'u heithrio wedi'u codi (heb eu dwyn i rym eto) |
Adran 59, Deddf 2024 |
Gwneud cais |
Gorfodi dyletswydd i ddarparu gwybodaeth yswiriant (heb ei ddwyn i rym eto) |
Adran 60, Deddf 2024 |
Gwneud cais |
Hepgor gofynion ymgynghori ar gyfer gwaith mawr |
Adran 20ZA, Deddf Landlord a Thenant 1985 |
Gwrthwynebu cais a wnaed gan landlord |
Penodi rheolwr |
Adran 24, Deddf Landlord a Thenant 1987 |
Gwneud cais |
- Rydym yn bwriadu darparu bod hawl y lesddeiliaid i wneud cais am eu costau gan eu landlord yn cyd-fynd yn fras â'r hawl i adennill costau ymgyfreitha sydd, fel a ddeallwn, gan lawer o landlordiaid ar hyn o bryd o dan delerau'r les. Byddem yn croesawu barn a thystiolaeth bellach ynghylch a yw telerau lesoedd sy'n caniatáu adennill costau ymgyfreitha gan lesddeiliaid yn gyffredinol yn rhoi'r hawl i landlordiaid adennill eu costau ar gyfer amrywio les (h.y. cais i'r tribiwnlys perthnasol o dan Adran 35 Deddf Landlord a Thenant 1987); a barn ynghylch a ddylid rhoi hawl i lesddeiliaid wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys i hawlio eu costau ymgyfreitha yn sgil amrywio les gan eu landlord o dan Adran 35 Deddf Landlord a Thenant 1987, naill ai drwy wneud cais neu wrthwynebu cais a wnaed gan landlord.