Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Costau ymgyfreitha: cynigion i osod eithriadau i'r gofyniad i landlord wneud cais
iv) Cynnig i osod eithriadau i’r gofyniad i landlord wneud cais er mwyn adennill costau ymgyfreitha fel tâl gweinyddol
- Mae Deddf 2024 yn cynnwys pwerau i wneud eithriadau i'r gofyniad i landlordiaid wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys i adennill eu costau ymgyfreitha gan lesddeiliaid trwy is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn golygu y gall yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru greu a diwygio eithriadau i'r gofyniad gwneud cais nawr ac yn y dyfodol lle ystyrir fod hynny’n angenrheidiol.
- Credwn y dylid defnyddio'r pŵer i osod eithriadau i'r gofyniad gwneud cais dim ond lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur. Mae hyn er mwyn sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu diogelu rhag costau ymgyfreitha anghyfiawn gan eu landlord.
- Ceisir barn ar gynnig i ddefnyddio'r pŵer eithrio sy'n ymwneud â landlordiaid yn adennill eu costau ymgyfreitha fel tâl gweinyddol mewn achosion lle mae landlord yn ceisio adennill dyled (e.e. am daliadau gwasanaeth heb eu talu) trwy'r Llys Sirol ac mae'r lesddeiliad yn addef y ddyled neu nad yw'n ymateb i'r hawliad nac yn amddiffyn yr hawliad. Rydym yn deall nad yw mwyafrif yr hawliadau o'r fath yn y Llys Sirol, yn enwedig i adennill dyledion tâl gwasanaeth, yn cael eu hamddiffyn. O dan reolau llys, rhaid i landlordiaid gynnwys eu costau ymgyfreitha ym "manylion yr hawliad" (rhan o'u cais i’r llys) os ydynt yn dibynnu ar hawl contractiol i gostau trwy ddibynnu ar deler yn y les. Os nad yw hawliad yn cael ei amddiffyn, gall landlordiaid wneud cais i'r Llys Sirol am ddyfarniad oherwydd diffyg. Mae'r broses i wneud hynny yn gyflym ac nid oes angen gwrandawiad nac i farnwr ystyried ffeithiau sylfaenol achos.
- Yn yr un modd, pan fydd lesddeiliad yn addef dyled, bydd y Llys Sirol yn cyhoeddi gorchymyn i'r lesddeiliad dalu'r swm a addefwyd. Unwaith eto, nid yw hyn yn gofyn am wrandawiad i gael ei gynnal neu i farnwr adolygu ffeithiau'r achos (ar gyfer y rhan o’r hawliad a addefwyd).
- Rydym yn rhagweld y byddai felly yn faich i'r llysoedd ystyried cais am gostau ymgyfreitha’r landlord lle mae hawliad dyled wedi'i addef neu heb ei amddiffyn; yn yr achosion hyn, mae'n debygol y byddai'r lesddeiliad yn cael ei ystyried i fod "ar fai" am y ddyled ac felly mae'n debygol y byddai llys yn caniatáu i landlord adennill eu costau ymgyfreitha fel tâl gweinyddol (cyn belled â bod gan y les deler perthnasol y gall y landlord ddibynnu arno).
- Gallai effaith bosibl eithriad o'r fath olygu bod mwy o lesddeiliaid yn amddiffyn hawliadau dyled lle na fyddent fel arall wedi gwneud hynny, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'w landlord wneud cais am eu costau ymgyfreitha. Fodd bynnag, ein barn ragarweiniol yw, os oes ar y lesddeiliad y ddyled a’i fod ddim ond yn amddiffyn yr hawliad er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'w landlord wneud cais am eu costau ymgyfreitha, mae'n debygol y bydd y llys neu'r tribiwnlys perthnasol yn gwneud penderfyniad o blaid y landlord ar y ddyled a bydd yn caniatáu i'r landlord adennill eu costau ymgyfreitha gan y lesddeiliaid.
- Ar gyfer achosion lle mae lesddeiliad yn amddiffyn hawliad a ddygwyd yn eu herbyn am ddyledion, byddai wedyn yn ofynnol i'r landlord wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol i drosglwyddo eu costau ymgyfreitha i lesddeiliaid (boed hynny'n dod gan y lesddeiliad unigol fel tâl gweinyddol; neu gan lesddeiliaid lluosog fel tâl gwasanaeth).
- Rydym yn cynnig bod yr eithriad hwn i ofyniad i landlord wneud cais yn berthnasol i landlordiaid sy'n ceisio adennill eu costau ymgyfreitha gan lesddeiliad unigol trwy'r tâl gweinyddol yn unig. Bydd hyn yn golygu nad yw'r eithriad yn ymestyn i landlordiaid yn yr achosion hyn sy'n ceisio adennill eu costau gan lesddeiliaid lluosog trwy'r tâl gwasanaeth. Ein barn gychwynnol yw y bydd costau ymgyfreitha sy’n cael eu hadfer gan lesddeiliad unigol fel tâl gweinyddol yn dod gan y lesddeiliad sy’n ymwneud ag achos sydd, yn yr achos arfaethedig, wedi addef yr hawliad neu heb amddiffyn yr hawliad. Efallai na fydd yn deg neu'n briodol i landlordiaid allu adennill eu costau ymgyfreitha o achosion o'r fath gan lesddeiliaid lluosog (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymwneud ag achosion) trwy'r tâl gwasanaeth heb wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys i ystyried a yw hyn yn gyfiawn ac yn deg yn yr amgylchiadau.
v) Manylion pellach am yr eithriadau arfaethedig ynghylch hawliadau dyled – hawliadau ac apeliadau wedi'u hamddiffyn yn rhannol
- Efallai y bydd hawliadau dyled yn y llys sifil lle mae'r lesddeiliad yn addef y ddyled yn rhannol ond yn amddiffyn rhan arall o'r ddyled. Yn yr achosion hyn, rydym yn deall bod yr hawliad yn mynd i wrandawiad er mwyn i farnwr ymdrin â’r rhan sy’n cael ei hamddiffyn, ac y byddant yn ystyried unrhyw gostau ymgyfreitha cysylltiedig. Rydym yn bwriadu peidio ag ymestyn yr eithriad i'r gofyniad i landlordiaid wneud cais i'r llys/tribiwnlys er mwyn adennill eu costau ymgyfreitha fel tâl gweinyddol mewn achosion lle mae hawliad dyled yn cael ei addef yn rhannol yn unig.
- Yn ogystal, efallai y bydd rhai achosion lle mae lesddeiliad yn gwneud cais i'r llys i roi dyfarniad oherwydd diffyg o'r neilltu, sef sut y gall lesddeiliad apelio yn erbyn dyfarniad oherwydd diffyg. Er enghraifft, os yw'r landlord wedi cyflwyno papurau i'r cyfeiriad anghywir (ac felly ni dderbyniodd y lesddeiliad hysbysiad o'r hawliad).
- Pan fydd lesddeiliad wedi gwneud cais llwyddiannus i roi dyfarniad oherwydd diffyg o'r neilltu (ac felly mae'r hawliad yn cael ei amddiffyn), rydym yn cynnig y bydd yr eithriad yn peidio â bod yn berthnasol. Mae hyn yn golygu os yw lesddeiliad wedi gwneud cais llwyddiannus i roi dyfarniad oherwydd diffyg o'r neilltu, bydd angen i'r landlord wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol i adennill eu costau ymgyfreitha gan y lesddeiliad.
- Fodd bynnag, pan fydd lesddeiliad wedi gwneud cais aflwyddiannus i roi dyfarniad oherwydd diffyg o'r neilltu, ac mae'r landlord wedi ysgwyddo costau ymgyfreitha pellach yn amddiffyn y cais, rydym yn rhagweld y byddai'n feichus i'r llys ystyried unrhyw gais pellach am gostau ymgyfreitha’r landlord. Rydym felly yn cynnig y dylai'r eithriad i'r gofyniad i landlordiaid wneud cais i adennill eu costau ymgyfreitha trwy dâl gweinyddol ymestyn i achosion lle mae'r lesddeiliad wedi gwneud cais aflwyddiannus i roi dyfarniad oherwydd diffyg o’r neilltu.
vi) Eithriadau arfaethedig pellach mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu bwrw allan "yn awtomatig"
- Mae'r llys sifil yn gallu bwrw allan rhai achosion "yn awtomatig" neu heb adolygu'r achos yn ffurfiol.[21] Mae'r llys yn gallu bwrw allan achosion yn awtomatig lle nad yw parti wedi cydymffurfio â gorchymyn sy'n nodi y bydd yr achos yn cael ei fwrw allan neu ei ddiddymu os yw'r parti yn methu â chymryd cam penodol. Er enghraifft, gallai llys fwrw allan achos yn "awtomatig" am fethu â ffeilio amddiffyniad erbyn dyddiad penodol. Rydym yn cynnig eithriad cyfyngedig i'r gofyniad i landlordiaid wneud cais i adennill eu costau ymgyfreitha fel tâl gweinyddol lle mae'r llys wedi bwrw allan achos lesddeiliad yn awtomatig (boed yn hawliad neu'n amddiffyniad) oherwydd rhywbeth y maent wedi'i wneud neu wedi methu â’i wneud. Er eglurder, byddai'r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw achos gerbron y llys sifil sy'n cael ei ddwyn gan landlord neu lesddeiliad, nid achosion dyled yn unig (sydd wedi bod yn ffocws ar yr eithriadau arfaethedig yn yr ymgynghoriad hwn hyd yn hyn).
- Os yw achos yn cael ei fwrw allan "yn awtomatig" oherwydd rhywbeth y mae landlord wedi'i wneud neu wedi methu â’i wneud, ni fyddai'r eithriad yn berthnasol, a byddai'n ofynnol i'r landlord wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol i adennill unrhyw gostau ymgyfreitha gan lesddeiliaid.
[21] Mae'r Rheolau Trefniadaeth Sifil yn diffinio "awtomatig" fel: "Where a rule, practice direction or order states ‘shall be struck out or dismissed’ or ‘will be struck out or dismissed’ this means that the striking out or dismissal will be automatic and that no further order of the court is required."