Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Costau ymgyfreitha: cynigion i weithredu mesurau cost ymgyfreitha Deddf 2024
iii) Cynigion i weithredu mesurau cost ymgyfreitha Deddf 2024
- Er mwyn dileu'r rhwystrau i fynediad at iawn i lesddeiliaid, ac i ail-gydbwyso'r drefn costau ymgyfreitha i'w gwneud yn decach, mae mesurau yn Neddf 2024 yn ceisio amddiffyn lesddeiliaid yn well rhag costau ymgyfreitha anghyfiawn gan eu landlord, ac i alluogi lesddeiliaid i adennill eu costau ymgyfreitha eu hunain gan eu landlord lle bo hynny'n briodol.
- Mae Deddf 2024 yn gwneud hyn trwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol er mwyn adennill eu costau ymgyfreitha gan lesddeiliaid – naill ai fel tâl gwasanaeth neu fel tâl gweinyddol (Adran 62 Deddf 2024). Mae hefyd yn rhoi'r hawl i lesddeiliaid wneud cais i'r llys neu'r tribiwnlys perthnasol i adennill eu costau ymgyfreitha eu hunain gan eu landlord (Adran 63 Deddf 2024).
- Mae rhai costau sy'n cael eu llywodraethu gan reolau ar wahân, nad ydynt yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys unrhyw gynigion sy'n ymwneud â chostau ymgyfreitha o ganlyniad i achosion perthnasol sy'n ymwneud â rhyddfreinio, estyniadau i lesoedd, a cheisiadau am yr Hawl i Reoli. Mae yna hefyd reolau ar wahân sy'n berthnasol mewn rhai amgylchiadau i gostau ymgyfreitha sy’n codi mewn perthynas â diogelwch adeiladau.
- Ar gyfer ceisiadau gan landlordiaid a lesddeiliaid am gostau ymgyfreitha, bydd y llys neu'r tribiwnlys perthnasol yn gwneud penderfyniad ar gostau y mae'n eu hystyried yn gyfiawn ac yn deg yn yr amgylchiadau. Bydd rheoliadau yn nodi "materion" y byddant yn eu hystyried wrth wneud gorchymyn ar geisiadau. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth i lesddeiliaid a landlordiaid o'r hyn y bydd y llys neu'r tribiwnlys yn ei ystyried wrth wneud penderfyniad ar gais am gostau ymgyfreitha.
- Mae Deddf 2024 yn cynnwys pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar sut y gwneir cais landlord i adennill costau ymgyfreitha gan lesddeiliaid lluosog trwy'r tâl gwasanaeth; a sut y bydd hysbysiad o'r cais i'w roi i'r rhai sydd wedi’u pennu ac heb eu pennu yn y cais (er enghraifft, i lesddeiliaid nad ydynt yn cymryd rhan). O ystyried natur dechnegol y pŵer hwn, rydym yn bwriadu datblygu manylion yr is-ddeddfwriaeth gan weithio'n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid.