Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Cyfrifon tâl gwasanaeth: eithriadau a threfniadau pontio

v) Eithriadau ac addasiadau: landlordiaid tai cymdeithasol a chyfrifon archwiliedig 

  1. Rydym am gyflwyno dull effeithiol ond cymesur o ymdrin â’r gofynion cyfrifon tâl gwasanaeth newydd. Nid yw rhai landlordiaid, ac yn enwedig rhai landlordiaid awdurdodau lleol, Darparwyr Cofrestredig Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn darparu datganiadau ysgrifenedig ar gyfer pob adeilad unigol y maent yn ei reoli. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod y rhan fwyaf o adeiladau maen nhw'n eu rheoli yn safleoedd daliadaeth gymysg ac yn cynnwys cymysgedd o eiddo lesddaliad ac eiddo rhent cymdeithasol, ac mae'r les yn gosod rhwymedigaethau adrodd gwahanol arnynt. Ar ben hynny, maent yn tueddu i reoli eu heiddo ar sail bwrdeistref neu ardal gyfan, sy'n ei gwneud hi'n anodd rhagnodi union gost ar gyfer rhai gwasanaethau ar gyfer pob bloc unigol.   
  1. O ganlyniad, yn hytrach na chynhyrchu datganiad o gyfrifon fesul bloc, maent naill ai'n darparu datganiad o gyfrifon ar gyfer yr ystâd neu hyd yn oed ddatganiad incwm a gwariant yn unig. Bydd hyn yn cymharu'r costau gwirioneddol a gafwyd yn erbyn yr incwm a dderbyniwyd.
  1. Rydym yn gwerthfawrogi'r manteision a'r sicrwydd y gallai lesddeiliaid gydag awdurdod lleol, landlord Darparwr Cofrestredig Preifat neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eu derbyn gyda datganiad o gyfrifon llawn. Fodd bynnag, rydym o'r farn y gallai gorfodi hyn ar y landlordiaid hyn arwain at gostau gormodol a baich gweinyddol sylweddol a fyddai'n debygol o gael ei drosglwyddo i lesddeiliaid yn gyfnewid am fudd cyfyngedig. Byddem yn croesawu barn ar rwymedigaethau cyfredol awdurdodau lleol, a landlordiaid Darparwyr Cofrestredig Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  1. Dewis arall posibl fyddai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ddarparu’r canlynol ar gyfer eu lesddeiliaid:
    1. Datganiad ariannol – sy’n cymharu costau gwirioneddol a gafwyd yn erbyn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn honno gan ddefnyddio'r penawdau cyllideb allweddol a nodir ym mharagraff 49 neu 51;
    2. Datganiad o gronfeydd wrth gefn – sy'n nodi lefel y cronfeydd wrth gefn ar ddechrau a diwedd y cyfnod cyfrifyddu, yn ogystal â manylion cyfraniadau a chostau. 
  2. Ar gyfer dull o'r fath, ni fyddem o reidrwydd yn ystyried bod yn rhaid i adroddiad ysgrifenedig gyd-fynd â’r datganiad ariannol ar gyfer pob bloc neu bod yn rhaid ei baratoi yn unol â'r safonau adrodd. Gallai hyn fod oherwydd bod systemau mewnol y sefydliad ei hun yn ddigon cadarn ac yn destun goruchwyliaeth briodol. Er enghraifft, o fewn awdurdodau lleol, mae atebolrwydd am reoli cyllid cadarn yn gorwedd ar swyddog Adran 151.
  1. Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai lesoedd yn gofyn am archwiliad llawn o gyfrifon. Nid yw'r gofynion newydd a gyflwynwyd yn Neddf 2024 yn diystyru'r gofynion hyn ac, o ystyried bod y rhwymedigaethau les yn fwy manwl na'r rhai a nodir yn yr ymgynghoriad hwn, cynigir bod cyfrifon archwiliedig yn cael eu heithrio. 

vi) Trefniadau pontio a chost cyflwyno'r mesurau cyfrifon tâl gwasanaeth newydd

  1. Ni roddwyd gwerth ariannol ar effeithiau ariannol y trefniadau newydd hyn fel rhan o'r Asesiad Effaith i Ddeddf 2024 gan y bydd yr effaith wirioneddol yn dibynnu ar fanylion y cynigion. Rydym yn awyddus i ddeall y gost i fusnes o gyflwyno'r mesurau hyn ac, yn arbennig, ble y gallai'r costau hyn syrthio, gan gynnwys a allent gael eu trosglwyddo i lesddeiliaid a sut y gellid eu trosglwyddo.
  1. Fel gyda'r cynigion ar gyfer adroddiadau blynyddol a hysbysiadau galw am daliadau gwasanaeth, rydym yn ymwybodol bod gan landlordiaid ac asiantiaid systemau gwahanol ar waith, gan gynnwys gwahanol fathau o feddalwedd, i'w galluogi i fodloni rhwymedigaethau lesoedd presennol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag ymgyfarwyddo â'r gofynion newydd ar gyfrifon tâl gwasanaeth, efallai y bydd angen i landlordiaid ac asiantiaid rheoli gynnwys newidiadau i'w systemau, hyfforddi staff ar y trefniadau newydd, gwneud trefniadau i bobl newydd baratoi'r datganiad ysgrifenedig a gwneud addasiad pellach i'w harferion gwaith.
  1. Rydym wedi gofyn cwestiynau isod i'n helpu i ddeall y goblygiadau cost ac i lywio ein penderfyniad terfynol ar ba rwymedigaethau y dylid eu rhoi ar waith. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfnod pontio synhwyrol sy'n ystyried cylch cyfrifon tâl gwasanaeth. Rydym o'r farn y dylai'r cyfnod pontio fod mor fyr â phosibl ac yn dibynnu ar pryd y cyflwynir y mesurau hyn. Rydym yn cynnig y dylai'r darpariaethau canlynol fod yn berthnasol:
    1. os yw'r cyfnod cyfrifyddu wedi dod i ben lai na chwe mis ar ôl dechrau'r darpariaethau hyn, yna dylai landlordiaid gael eu heithrio rhag cydymffurfio â'r darpariaethau am gyfnod o 12 mis. Mae hyn er mwyn caniatáu paratoi unrhyw ddatganiad o gyfrifon ariannol gan ddefnyddio trefniadau presennol; a
    2. os yw'r cyfnod cyfrifyddu wedi dod i ben fwy na chwe mis ar ôl dechrau'r darpariaethau hyn, yna dylai landlordiaid gael eu heithrio rhag cydymffurfio â'r darpariaethau am gyfnod o 6 mis. Mae hyn yn golygu y byddai'r darpariaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cylch nesaf y gwaith o baratoi datganiadau ariannol.
76. Pa wybodaeth ariannol mae awdurdodau lleol, Darparwyr Cofrestredig Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ei darparu i'w lesddeiliaid? [Amlygwch bob un sy’n berthnasol os gwelwch yn dda]
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
77. Pa weithdrefnau sydd ar waith o fewn awdurdodau lleol, Darparwyr Cofrestredig Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i sicrhau bod unrhyw gyfrifon neu ddatganiadau ariannol yn cael eu hadrodd yn gywir a phwy sy'n cadarnhau unrhyw wybodaeth?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
78. Ydych chi'n meddwl y dylai landlordiaid awdurdodau lleol, Darparwyr Cofrestredig Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael eu heithrio o'r darpariaethau i baratoi datganiadau o gyfrifon ysgrifenedig ar gyfer pob bloc a'u cadarnhau gan gyfrifydd cymwys priodol?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
79. A oes unrhyw landlordiaid neu senarios penodol eraill lle rydych chi'n meddwl bod angen eithriadau neu addasiadau?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
80. Ydych chi eisoes yn darparu cyfrifon tâl gwasanaeth i'ch lesddeiliaid?
81. Beth yw'r gwahaniaethau rhwng y cynigion newydd hyn a'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i lesddeiliaid ar hyn o bryd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
82. Pa mor hir mae'n ei gymryd i chi baratoi cyfrifon nawr? Pa mor hir fyddai'n ei gymryd i chi baratoi cyfrifon pe bai'n rhaid i chi weithredu'r cynigion?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
83. Faint mae'n ei gostio i chi baratoi set o gyfrifon ar gyfartaledd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
84. Pa gostau neu arbedion ychwanegol fyddech chi'n eu hwynebu pe byddech chi'n gorfod gweithredu'r cynigion?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
85. A fyddech chi’n addasu eich systemau, neu a fyddai unrhyw addasiadau yn cael eu hallanoli (er enghraifft, i ddarparwr meddalwedd TG)?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
86. Faint fyddai'n ei gostio i addasu systemau i gasglu a darparu'r wybodaeth?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
87. Ydych chi'n cytuno bod 12 mis yn ddigon o amser i ganiatáu i landlordiaid ac asiantiaid rheoli addasu eu systemau a hyfforddi eu staff yn y trefniadau newydd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
88. A fyddai'r costau sefydlu yn cael eu lleihau pe baem yn darparu cyfnod pontio hirach?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod