Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Gwell gwybodaeth am yswiriant: ffurf ac amseriad y wybodaeth

ii) Ffurf a dull darparu gwybodaeth am yswiriant i lesddeiliaid

  1. Mae Deddf 2024 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru ragnodi'r ffurf a'r modd y darperir gwybodaeth am yswiriant i lesddeiliaid, er enghraifft templed penodol i landlordiaid ei ddefnyddio. Rydym yn awgrymu y dylid rhagnodi templed i sicrhau cysondeb i lesddeiliaid a helpu landlordiaid i fod yn hyderus eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Darperir templed enghreifftiol yn Atodiad E.
  1. Fel gyda gwybodaeth arall y gall lesddeiliaid ofyn amdani gan landlordiaid (gweler sdran 2.4), deallwn fod achos i landlordiaid allu anfon dogfennau sy'n gysylltiedig ag yswiriant trwy e-bost yn unig, fel dewis arall yn lle post, lle mae'n gost-effeithiol, ymarferol a hwylus i wneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai anfon gwybodaeth trwy e-bost arwain at honiadau nad yw'r lesddeiliad wedi derbyn yr wybodaeth. O ystyried hyn, byddem yn croesawu barn ar ba fesurau diogelu neu drefniadau, os o gwbl, ddylai fod ar waith, pe bai landlordiaid yn gallu anfon gwybodaeth o'r fath trwy e-bost.

iii) Amseriad darparu gwybodaeth i lesddeiliaid a landlordiaid

  1. Rydym am i lesddeiliaid dderbyn gwybodaeth am eu hyswiriant adeiladau mewn modd amserol i sicrhau eu bod yn deall yr yswiriant sydd wedi'i brynu ar eu rhan ac yn gallu herio unrhyw gostau afresymol. Rydym yn argymell y dylai landlordiaid ddarparu'r wybodaeth benodol cyn pen 30 diwrnod calendr wedi i’r yswiriant ddod i rym ac i lesddeiliaid newydd o fewn 30 diwrnod o brynu'r eiddo, os nad ydynt eisoes wedi derbyn yr wybodaeth benodol ar y contract yswiriant.
  1. Mae'n bwysig bod y landlord yn derbyn yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt gan drydydd parti, er enghraifft y brocer yswiriant, mewn modd amserol er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hyn. Nid ydym yn awgrymu rhagnodi sut y dylai landlordiaid ofyn am wybodaeth gan drydydd partïon er mwyn osgoi hyblygrwydd cyfyngedig diangen i landlordiaid neu eu hasiantiaid, ac nid ydym yn ystyried bod unrhyw eithriadau yn briodol.

iv) Trefniadau trosiannol

  1. Bydd cost y mesur hwn yn effeithio ar landlordiaid ac asiantiaid rheoli yn wahanol, yn dibynnu ar y systemau sydd ganddynt ar waith ar hyn o bryd, gan nodi y dylent eisoes fod yn trosglwyddo llawer o'r wybodaeth hon i lesddeiliaid o dan reolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ni roddwyd gwerth ariannol ar effeithiau'r trefniadau newydd hyn fel rhan o Asesiad Effaith Deddf 2024 am y rheswm hwn.
  1. Felly, rydym yn barod i ganiatáu cyfnod pontio rhwng gwneud yr offeryn statudol a dechrau'r mesurau tryloywder yswiriant. Rydym o'r farn y dylai'r cyfnod pontio fod mor fyr ag sy'n bosibl ac felly dylid caniatáu 3 mis i landlordiaid ac asiantiaid rheoli roi'r holl drefniadau angenrheidiol ar waith. Fodd bynnag, rydym yn croesawu barn ar hyn. 
59. A ddylid gofyn i landlordiaid ddarparu gwybodaeth mewn templed penodol?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
60. Beth yw eich barn chi am y templed a ddarperir yn Atodiad E?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
61. A ddylai landlordiaid allu darparu gwybodaeth yswiriant i lesddeiliaid trwy e-bost yn unig?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
62. Ydych chi'n meddwl bod 30 diwrnod yn ddigon o amser i’w roi i landlordiaid ddarparu gwybodaeth yswiriant adeiladau i lesddeiliaid?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
63. Ydych chi'n meddwl bod unrhyw amgylchiadau lle dylid ymestyn y cyfnod hwn?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
64. A ddylid ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ofyn am wybodaeth gan drydydd person mewn ffordd benodol?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
65. A ddylai fod unrhyw amgylchiadau lle mae person wedi'i eithrio o'r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r landlord?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
66. A ddylai fod cyfnod amser penodol i wneud cais am wybodaeth gan landlord i drydydd parti?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
67. [Os ydych chi’n landlord neu asiant rheoli] Beth ydych chi'n meddwl y byddai pontio i'r trefniadau newydd hyn yn ei gostio i'ch sefydliad?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
68. [Os ydych chi’n landlord neu asiant rheoli] Faint fyddai'n ei gostio i chi gael yr wybodaeth ofynnol nad yw ar gael gennych ar hyn o bryd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
69. Ydych chi'n meddwl mai 3 mis yw'r amser cywir i ganiatáu i landlordiaid ac asiantiaid rheoli addasu eu systemau a hyfforddi eu staff i gyflawni'r trefniadau newydd?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod