Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Gwell gwybodaeth am yswiriant: gwybodaeth i’w rhannu gyda lesddeiliaid

2.7 Gwell gwybodaeth am yswiriant

  1. I lawer o lesddeiliaid mewn adeiladau aml-feddiannaeth, mae yswiriant adeiladau yn cyfrif am gyfran sylweddol o'u tâl gwasanaeth ac mae'n ofynnol o dan delerau eu morgais. Mae yswiriant adeiladau hefyd yn amddiffyn lesddeiliaid rhag colledion, fel arfer i strwythur yr adeilad neu mewn ardaloedd cyffredin, er enghraifft yn sgil tân neu lifogydd.
  1. Bydd landlordiaid fel arfer yn ymgymryd â'r dasg o yswirio'r adeilad, yn aml yn cyflogi asiant rheoli i drefnu'r yswiriant a fydd yn ei dro yn cyflogi brocer yswiriant. Mae broceriaid fel arfer yn gweithio ar sail comisiwn, sydd fel arfer yn cael ei negodi gydag yswirwyr. Mae landlordiaid ac asiantiaid rheoli hefyd fel arfer yn cael eu talu gan froceriaid sy'n rhannu eu comisiwn gyda nhw am eu gwaith yn trefnu a rheoli lleoliadau yswiriant.
  1. Gall y gadwyn gyflenwi hon ysgogi landlordiaid ac asiantiaid rheoli i ddewis broceriaid yswiriant sy'n sicrhau cynnyrch nad yw o reidrwydd yr opsiwn gwerth gorau i'r lesddeiliad ond sy'n cynnig yr enillion uchaf o ran comisiwn iddynt. Cyhoeddodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) adroddiad yn 2023 ar daliadau cydnabyddiaeth broceriaid mewn adeiladau aml-feddiannaeth a chanfu fod lefel absoliwt tâl broceriaid wedi codi 40% rhwng 2019 a 2022. Canfu hefyd nad oedd broceriaid yn aml yn gallu mynegi pa wasanaethau sy'n gysylltiedig ag yswiriant neu fuddion â gwerth a ddarperir gan y partïon yr oeddent yn rhannu comisiwn gyda nhw - gan gynnwys landlordiaid ac asiantiaid rheoli.
  1. Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, diweddarodd yr FCA ei reoliadau ym mis Ionawr 2024 i gryfhau amddiffyniadau a thryloywder i lesddeiliaid. Mae'r diweddariad yn sicrhau bod yn rhaid i gwmnïau yswiriant weithredu er budd gorau lesddeiliaid, trin lesddeiliaid fel cwsmeriaid wrth ddylunio cynhyrchion ac na allant argymell polisi yswiriant yn seiliedig ar lefelau comisiwn neu gydnabyddiaeth ariannol. Mae'n ofynnol i gwmnïau ddatgelu gwybodaeth am bolisïau i'w cwsmeriaid a sicrhau bod eu polisïau yswiriant yn cynnig gwerth teg.
  1. O ystyried y materion hyn mewn cysylltiad â chaffael cynhyrchion yswiriant adeiladau a'r gost sylweddol i lesddeiliaid, mae'n hanfodol bod mwy o dryloywder i lesddeiliaid ynghylch yr yswiriant sy'n cael ei brynu ar eu rhan fel y gall lesddeiliaid herio rhesymoldeb costau yswiriant os dymunant. Dylai mwy o dryloywder hefyd ysgogi landlordiaid ac asiantiaid rheoli i weithredu er lles pennaf lesddeiliaid a cheisio'r opsiynau gwerth gorau wrth reoli a threfnu yswiriant.
  1. Ar hyn o bryd, mae Adran 30A Deddf 1985 yn caniatáu i lesddeiliaid ofyn am grynodeb o'u polisi yswiriant gan eu landlord ac archwilio'r dogfennau yswiriant, ond nid oes dyletswydd ar landlordiaid i rannu'r wybodaeth hon yn rhagweithiol gyda lesddeiliaid os na ofynnwyd amdani. Mae rheolau newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i froceriaid yswiriant ac yswirwyr rannu mwy o wybodaeth gyda chwsmer contractiol yr yswiriant, gyda'r bwriad bod hyn yn cael ei drosglwyddo i lesddeiliaid. Fodd bynnag, gan mai'r cwsmer fel arfer yw'r landlord neu'r asiant rheoli ac efallai na fydd yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ni all yr Awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth gael ei throsglwyddo.
  1. Mae Adran 60 Deddf 2024 yn diwygio'r Atodlen i Ddeddf 1985. Mae hyn yn gosod dyletswydd ar landlordiaid i ddarparu gwybodaeth yn rhagweithiol am y polisi yswiriant i lesddeiliaid o fewn cyfnod a fydd yn cael ei bennu mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod pob lesddeiliad yn derbyn gwybodaeth fanwl am eu polisi yswiriant heb orfod gofyn amdani gan asiantiaid rheoli, landlordiaid neu froceriaid yswiriant.
  1. Mae gwell tryloywder ynghylch yswiriant hefyd yn ategu mesur gwahanol yn Neddf 2024 yr ymgynghorwyd arno ar wahân. Gallai’r mesur hwn, os daw i rym, fynd i’r afael â’r model ysgogi lle mae landlordiaid neu asiantiaid rheoli eiddo sy’n gweithio ar eu rhan yn cael cyfran o gomisiwn y brocer yswiriant adeiladau am weithgareddau’n ymwneud ag yswiriant. Gall hyn eu hysgogi i ddewis broceriaid ar sail y taliad a gânt yn hytrach na’r gwerth gorau i’r lesddeiliad. 

i) Gwybodaeth i'w darparu i lesddeiliaid

  1. Cyflwynodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol reolau newydd a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2024 sy'n golygu ei bod yn ofynnol i froceriaid yswiriant (cyfryngwyr) ac yswirwyr a reolir gan yr Awdurdod ddarparu gwybodaeth fanwl i gwsmeriaid contractiol ar y meysydd canlynol:
    1. nodweddion y polisi gan gynnwys: y math o yswiriant, prif risgiau yr yswirir yn eu herbyn, risgiau wedi'u heithrio, taliadau-dros-ben, nodweddion arwyddocaol, tymor a hyd y polisi a'r buddion, a'r swm yswiriedig;
    2. cyfanswm premiwm y polisi ar lefel adeilad a swm y dreth premiwm yswiriant a'r Dreth ar Werth;
    3. tâl y mae broceriaid yn ei dderbyn, yn ogystal â'r gydnabyddiaeth ariannol y maent yn ei thalu i drydydd partïon, gan gynnwys asiantiaid rheoli a landlordiaid;
    4. gwybodaeth am wrthdaro buddiannau posibl;
    5. nifer y dyfynbrisiau amgen a gafwyd ac esboniad ynghylch pam eu bod yn argymell polisi penodol.
  2. O ystyried nad lesddeiliaid fel arfer yw'r cwsmer contractiol sy'n prynu'r yswiriant adeiladau, mae rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i'r brocer neu'r yswiriwr roi cyfarwyddyd clir i'r cwsmer (fel arfer y landlord neu'r asiant rheoli) i drosglwyddo’r wybodaeth hon i'r lesddeiliaid. Gall y lesddeiliad hefyd ofyn am yr wybodaeth hon yn uniongyrchol gan y brocer neu'r yswiriwr, os nad yw'n cael ei darparu iddynt gan y landlord neu'r asiant rheoli.
  1. Rydym yn ystyried bod gofynion tryloywder newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn gam sylweddol ymlaen a chredwn y dylai landlordiaid, o leiaf, orfod darparu lesddeiliaid gyda'r wybodaeth y mae broceriaid ac yswirwyr yn ei darparu iddynt (neu'r asiant rheoli) o dan reolau’r Awdurdod.
  1. Fodd bynnag, rydym o'r farn bod achos i fynd ymhellach. Mae gwrthdaro buddiannau rhwng gwahanol bartïon yn y gadwyn sy'n trefnu yswiriant wedi cael ei godi fel mater o bryder arbennig gan lesddeiliaid a grwpiau ymgyrchu. Ar hyn o bryd mae rheolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i froceriaid yswiriant a chwmnïau yswiriant, fel cwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod, ddatgan gwrthdaro os:
    1. oes gan y cwmni (brocer yswiriant) ddaliad uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n cynrychioli 10% neu fwy o'r hawliau pleidleisio neu'r cyfalaf mewn ymgymeriad yswiriant penodol;
    2. oes gan yr ymgymeriad yswiriant neu ei riant-ymgymeriad ddaliad uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n cynrychioli 10% neu fwy o'r hawliau pleidleisio neu'r cyfalaf yn y cwmni;
    3. oes cwmni yn cynrychioli'r cwsmer neu'n gweithredu ar ran yr yswiriwr.
  2. Os ydym ond yn ailadrodd rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unig, ni fyddai angen i landlordiaid ac asiantiaid rheoli ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fod ganddynt gyda'r brocer neu'r yswiriwr. Rydym felly yn cynnig ei bod yn ofynnol i landlordiaid hefyd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau rhyngddynt eu hunain neu asiantiaid rheoli y maent yn eu cyflogi ac yswirwyr a broceriaid. 
  1. Ar ben hynny, mae gennym ddiddordeb mewn deall a oes diffiniad o wrthdaro buddiannau a allai achosi pryder i lesddeiliaid, sy’n darlunio’n well beth yw’r berthynas rhwng y gwahanol actorion sy'n ymwneud â dewis, trefnu a darparu yswiriant adeiladau.
  1. Ochr yn ochr ag ystyriaethau ynghylch gwrthdaro buddiannau, rydym hefyd yn cynnig y bydd yn rhaid i'r landlord ddarparu gwybodaeth i lesddeiliaid am sut y gallant wneud hawliad ar yr yswiriant, boed hynny'n uniongyrchol i'r yswiriwr neu drwy hysbysu'r asiant rheoli neu'r landlord. Nid yw rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i'r yswiriwr a'r brocer gynnwys hyn yn eu datgeliad i'r cwsmer. 
  1. Byddem yn croesawu barn ynghylch a yw'r datgeliad sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ochr yn ochr ag ystyriaethau ynghylch gwrthdaro buddiannau a’i gwneud yn glir sut y gall lesddeiliad wneud hawliad, yn darparu digon o wybodaeth i lesddeiliaid ddeall eu hyswiriant adeiladau a herio costau os ydynt yn meddwl ei fod yn afresymol.
  1. Ein man cychwyn yw peidio â chael unrhyw eithriadau i landlordiaid gydymffurfio â'r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth yswiriant, gan gyd-fynd â chynnig y ffurflen galw am dâl gwasanaeth (gweler adran 2.2). Mae gan lesddeiliaid hawl glir i ddeall y polisi yswiriant sy'n cael ei brynu ar eu rhan. Fodd bynnag, byddem yn croesawu barn ynghylch a ddylai fod unrhyw eithriadau ar hyn o bryd rhag cydymffurfio â'r dull arfaethedig hwn.
54. Ydych chi'n meddwl y dylai asiantiaid rheoli a landlordiaid hefyd orfod datgan gwrthdaro buddiannau gyda'r brocer yswiriant a'r yswiriwr?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
55. A oes unrhyw wrthdaro arall yn y gadwyn o drefnu, rheoli a darparu yswiriant y dylid ei ddatgan i lesddeiliad?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
56. Ydych chi'n meddwl bod diffiniad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o wrthdaro buddiannau yn cwmpasu gwrthdaro sy'n berthnasol i lesddeiliaid?
57. Pe bai'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan reolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, manylion ychwanegol am wrthdaro buddiannau a gwneud hawliad yn cael ei hanfon at yr holl lesddeiliaid, ai dyma fyddai’r swm cywir o wybodaeth?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
58. Ydych chi'n meddwl y dylai fod unrhyw amgylchiadau lle na ddylai’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth am yswiriant fod yn berthnasol?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod