Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Dyletswydd i gyhoeddi atodlenni taliadau gweinyddol
2.6 Dyletswydd newydd i gyhoeddi atodlenni taliadau gweinyddol
- Mae taliadau gweinyddol yn daliadau untro y gellir eu codi ar lesddeiliad unigol yn ogystal â thaliadau gwasanaeth, ar gyfer ceisiadau penodol a amlinellir yn y les (e.e. caniatâd i gadw anifail anwes, gwneud newidiadau i eiddo neu isosod).[17] Mae deddfwriaeth bresennol yn diffinio beth yw ystyr tâl gweinyddol ac yn cynnwys gofyniad, lle mae tâl gweinyddol yn amrywiadwy, fod yn rhaid iddo fod yn rhesymol ac y gellir ei herio yn y tribiwnlys priodol.
- Mae lesoedd yn nodi pryd mae'r taliadau hyn yn gymwys ond anaml yn nodi'r swm neu'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol am daliadau gweinyddol nac ar ba lefelau y maent wedi'u gosod. Nid yw llawer o lesddeiliaid yn ymwybodol o gostau posibl, ar ba lefelau maen nhw'n cael eu gosod, na’u hawliau presennol i'w herio.
- Rydym am sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu hysbysu'n well o'r holl daliadau y gallant eu hwynebu. Mae Deddf 2024 yn cyflwyno gofyniad newydd ar landlordiaid i gyhoeddi atodlen taliadau gweinyddol, sy'n manylu ar daliadau gweinyddol y gall lesddeiliaid fod yn atebol i'w talu. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sy'n newid costau eu taliadau gweinyddol gyhoeddi atodlen ddiwygiedig 28 diwrnod cyn i daliadau newydd ddod i rym.
i) Ffurf a chynnwys yr atodlen taliadau gweinyddol newydd
- Dylai’r atodlen taliadau gweinyddol newydd fod yn glir, yn hawdd ei deall ac yn ddigon manwl i hysbysu lesddeiliaid am gostau posibl. Os na ellir darparu union gost ymlaen llaw (e.e. trwydded ar gyfer newidiadau strwythurol sy'n cynnwys sawl parti fel syrfewyr), dylid cynnwys dull amgen ar gyfer cyfrifo'r gost. Rydym yn cynnig y dylai hyn gynnwys costau amcangyfrifedig i'r partïon dan sylw, gan roi syniad i'r lesddeiliad o beth fydd y taliadau posibl. Gweler Atodiad D am strwythur a chynnwys arfaethedig yr atodlen taliadau gweinyddol, sy'n nodi costau sefydlog lle gellir darparu union gost a chostau amrywiadwy lle nodir gwybodaeth am sut mae'r gost amcangyfrifedig yn cael ei chyfrifo.
ii) Y dull o ddarparu'r atodlen taliadau gweinyddol newydd
- Rydym yn cynnig bod landlordiaid yn darparu copi o'u hatodlen taliadau gweinyddol yn yr adroddiad blynyddol (gweler adran 2.1) ar gyfer pob lesddeiliaid. Dylent ddarparu unrhyw fersiynau wedi'u diweddaru i lesddeiliaid trwy'r un modd ar wahân (e.e. os yw'r adroddiad blynyddol eisoes wedi'i ddarparu) pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud. Rydym hefyd yn cynnig bod yn rhaid i'r atodlen fod ar gael ar gais ar unrhyw adeg.
[17] Rheolir taliadau gweinyddol gan Adran 158 ac Atodlen 11 Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002").