Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Hysbysiad galw am daliadau gwasanaeth yn y dyfodol

2.3 Hysbysiad galw newydd am daliadau gwasanaeth yn y dyfodol

  1. O dan adran 20B o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, rhaid i landlord hysbysu lesddeiliaid am gostau tâl gwasanaeth sy'n codi neu y mae galw amdanynt o fewn 18 mis o'r adeg y cododd y costau. Bwriad hyn yw sicrhau y cyflwynir biliau mewn da bryd ac osgoi anghydfod dros wariant sydd wedi digwydd ymhell yn ôl mewn amser. Mae cyfraith achosion wedi penderfynu bod y costau hyn yn cael eu cyfrif naill ai o’r adeg y bydd y landlord yn derbyn bil gan y cyflenwr neu pan fyddant yn talu'r cyflenwr eu hunain.
  1. Os bydd landlordiaid yn colli'r dyddiad cau 18 mis hwn, nid yw lesddeiliaid yn atebol i dalu'r costau hyn oni bai bod y landlord yn anfon hysbysiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod hwn am y costau a'u cyfrifoldeb i gyfrannu yn y dyfodol. Mae cyfraith achosion wedi pennu bod yn rhaid i gais landlord yn y cyd-destun hwn fod yn gais am daliad ariannol ac yn hysbysiad galw am wariant gwirioneddol yr aethpwyd iddo o dan ddarpariaethau'r les.
  1. Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer yr hysbysiad hwn, sydd wedi achosi dryswch gan nad yw'r wybodaeth a ddarperir o fewn hysbysiadau yn cael ei ystyried yn ddigonol bob amser. Ar hyn o bryd, dim ond y gost gyffredinol i'r landlord sydd angen ei nodi yn yr hysbysiad, ond efallai na fydd o reidrwydd yn esbonio faint sy’n ddyledus gan bob lesddeiliad unigol, a fydd angen iddynt dalu, neu pryd y bydd y taliad yn ddyledus.
  1. Mae Deddf 2024 yn ceisio rhoi eglurder trwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gyhoeddi 'hysbysiad galw yn y dyfodol' newydd i lesddeiliaid lle mae'n ofynnol iddynt hysbysu lesddeiliaid am gostau tâl gwasanaeth yn y dyfodol.
  1. Mae Deddf 2024 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru nodi ffurf yr hysbysiad, yr wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddo, a'r modd y mae'n rhaid ei roi yn y dyfodol i'r lesddeiliaid. Rydym yn cynnig bod hyn yn cynnwys:
    1. swm amcangyfrifedig y costau yr aethpwyd iddynt;
    2. y swm y disgwylir i lesddeiliad unigol ei gyfrannu at y costau hynny; a
    3. dyddiad y disgwylir y bydd gofyn am y tâl gwasanaeth arno neu cyn hynny.
  2. Pan fydd hysbysiad galw yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru bwerau i gyfyngu ar y swm y gall landlordiaid ei godi yn ogystal â’r terfyn amser ar gyfer galw am daliad. Gall landlordiaid ymestyn y dyddiad galw disgwyliedig o dan amodau penodol.
  1. Ar gyfer rhaglenni gwaith aml-flwyddyn, rydym yn disgwyl i landlordiaid gyhoeddi hysbysiad galw yn y dyfodol ar gyfer pob set o waith newydd. Ar gyfer gwaith sydd eisoes ar y gweill, os bydd cynnydd pellach yn y costau sy’n cael eu hysgwyddo ar ôl yr hysbysiad galw yn y dyfodol cychwynnol, rydym hefyd yn disgwyl i landlordiaid gyhoeddi hysbysiad galw yn y dyfodol pellach i gwmpasu’r costau ychwanegol hyn cyn i’r hysbysiad galw presennol ddod i ben ac o fewn 18 mis i’r costau hynny gael eu hysgwyddo. Mae hyn yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru.
  1. Bwriad y dull arfaethedig hwn yw darparu mwy o sicrwydd a thryloywder i lesddeiliaid ond hefyd sicrhau bod landlordiaid yn fwy atebol a sicrhau bod costau'n cael eu bilio mewn modd amserol, neu fel arall y cyfathrebir yn briodol gyda lesddeiliaid.

i) Ffurf a dull yr hysbysiad i lesddeiliaid

  1. Mae'n bwysig bod landlordiaid yn rhoi gwybodaeth glir, amserol a hygyrch i lesddeiliaid am gostau yn y dyfodol. Mae Atodiad C yn dangos manylion yr hysbysiad galw yn y dyfodol safonol arfaethedig. Dylid anfon y ffurflen at lesddeiliaid yn unol â'r les. Fodd bynnag, fel y nodir yn adran 3.6, rydym yn cydnabod y defnydd cynyddol o gyfathrebu digidol, a byddwn yn cadw golwg ar newid tuag at ddanfon yn electronig yn y dyfodol.

ii) Seiliau (rhesymau) dros ymestyn y dyddiad galw amcangyfrifedig

  1. Efallai y bydd rhesymau y gellir eu cyfiawnhau pam y gallai landlordiaid weithiau fod angen oedi cyn gofyn i lesddeiliaid am daliad y tu hwnt i'r dyddiad galw disgwyliedig, hyd yn oed os yw cyfanswm y costau yn aros yr un fath. Gallai hyn fod oherwydd anghydfodau ynghylch ansawdd y gwaith neu oedi o ran gorffen y gwaith. Efallai y bydd achosion hefyd lle mae gorwariant yn ymwneud â phrosiect gwaith mawr sy'n destun anghydfod rhesymoldeb neu oddefeb yn y tribiwnlys perthnasol nad yw wedi'i benderfynu eto. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru y pŵer i ragnodi rhesymau dilys dros newid dyddiad y galw ac rydym yn cynnig y rhesymau canlynol:
    1. Oedi i waith mawr; ac
    2. Anghydfodau sy'n gohirio anfoneb y bil terfynol.
  2. Rydym yn croesawu barn ar briodoldeb y seiliau hyn ac a ddylid ystyried seiliau eraill.

 

36. A ydych chi'n cytuno â strwythur a chynnwys arfaethedig yr hysbysiad galw yn y dyfodol yn Atodiad C?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
37. Ydych chi'n cytuno â'r rhesymau arfaethedig ar gyfer ymestyn y dyddiad galw amcangyfrifedig?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod
38. A ddylem ddeddfu fel na ddylid adennill costau os yw’r terfyn amser ar y ffurflen galw yn y dyfodol gychwynnol wedi dod i ben, neu fel y dylid capio’r costau os ydynt yn uwch na’r amcan ar y ffurflen gychwynnol?
Mae terfyn o 1200 nod
Mae terfyn o 1200 nod