Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Cynyddu tryloywder
Rhan 1: Gweithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024
2. Cynyddu tryloywder ynghylch ffioedd a thaliadau
- O dan delerau lesoedd a deddfwriaeth bresennol, mae'r rhan fwyaf o lesddeiliaid yn cael gwybodaeth am eu hadeilad ar wahanol adegau o'r flwyddyn gyfrifyddu 12 mis neu mae ganddynt hawl i ofyn am yr wybodaeth honno. Yn nodweddiadol, maent yn derbyn cyfrifon blynyddol a hysbysiadau’n galw am dâl gwasanaeth interim, ond nid oes rhaid i landlordiaid fel arfer ddatgelu cyllidebau neu gynlluniau manwl ar gyfer yr adeilad, megis ar gyfer gwaith mawr yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, nad yw lesddeiliaid yn aml yn deall manylion yr hyn y gofynnir iddynt dalu amdano, a’u bod efallai’n cael gwybod am waith mawr a’r costau cysylltiedig ychydig fisoedd yn unig cyn y maent i fod i ddechrau.
- Ein nod yw gwella faint o wybodaeth a’r math o wybodaeth y mae lesddeiliaid yn ei dderbyn. Yn fras, mae lesddeiliaid ar hyn o bryd yn derbyn yr wybodaeth ganlynol dros y flwyddyn, fel y nodir yn Ffigur 1 isod:
- hysbysiad yn galw am dâl gwasanaeth cyn dechrau'r flwyddyn gyfrifyddu (gyda neu heb gyllideb) gyda chais am ragdaliad ar gyfer y flwyddyn i ddod;
- hysbysiad interim chwe mis yn ddiweddarach yn galw am ragdaliad i dalu costau’r tâl gwasanaeth amcangyfrifedig sy'n weddill;
- datganiad o gyfrifon ariannol a hysbysiad galw ar gyfer unrhyw orwariant ar gyfer y 12 mis blaenorol, tua 6-9 mis i mewn i'r flwyddyn; a
- Bydd unrhyw wybodaeth arall a roddir yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Ffigur 1: Yr wybodaeth a roddir i lesddeiliaid ar hyn o bryd yn ystod cyfnod o flwyddyn
Mae Ffigur 1 yn dangos yr wybodaeth y gall lesddeiliaid ddisgwyl ei chael drwy gydol y flwyddyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau’n galw am dâl gwasanaeth a chyfrifon diwedd blwyddyn.
- Bydd gweithredu mesurau yn Neddf 2024 yn rhoi mwy o wybodaeth, a gwybodaeth fwy amserol, i lesddeiliaid, sy'n hygyrch ac yn safonedig, ac yn cynrychioli gwelliant sylweddol i’r gofynion presennol sydd wedi bod yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers dros ugain mlynedd. Mae hyn yn cynnwys gwell gwybodaeth am eu tâl gwasanaeth rheolaidd yn ogystal â gwybodaeth ehangach am gynlluniau sydd ar ddod ar gyfer rheoli a chynnal a chadw eu hadeilad. Mae’r ffordd y bydd y trefniadau newydd hyn yn llifo dros gyfnod o flwyddyn wedi ei dangos yn Ffigur 2 isod. O dan ein diwygiadau, bydd lesddeiliaid yn derbyn:
- ffurflen yn galw am dâl gwasanaeth safonedig ar ddechrau'r flwyddyn gyfrifyddu i roi eglurder ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei dalu (gyda chyllideb) ar gyfer y flwyddyn i ddod;
- adroddiad blynyddol newydd (sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol am eu hadeilad) naill ai ar yr un pryd â'r hysbysiad galw, neu o fewn mis cyntaf y flwyddyn gyfrifyddu;
- hysbysiad galw am dâl gwasanaeth interim safonedig ar gyfer gweddill costau’r tâl gwasanaeth amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn honno, chwe mis i mewn i'r flwyddyn;
- datganiad o gyfrifon ariannol llawn ac achrededig ac unrhyw hysbysiad galw ar gyfer unrhyw orwariant ar gyfer y cyfnod 12 mis blaenorol (a ddarperir o fewn 6 mis i mewn i'r flwyddyn gyfrifyddu, ar gyfer pob lesddeiliaid mewn blociau o bedwar eiddo neu fwy); a
- Gwybodaeth arall a fydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, ond yn cynnwys mwy o hawliau i wneud cais am wybodaeth yn ôl y galw.
Ffigur 2: Effaith mesurau newydd ar ddarparu gwybodaeth i lesddeiliaid yn ystod cyfnod o flwyddyn
Mae Ffigur 2 yn dangos yr wybodaeth y gall lesddeiliaid ddisgwyl ei chael drwy gydol y flwyddyn unwaith y bydd y mesurau newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau’n galw am dâl gwasanaeth, adroddiad blynyddol a chyfrifon taliadau gwasanaeth.
- Er bod darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar lesddeiliaid yn hanfodol, mae'n bwysig sicrhau nad yw landlordiaid, neu asiantiaid rheoli, yn ysgwyddo baich gormodol, a bod unrhyw gostau ychwanegol yn rhesymol ac yn deillio o ddarpariaeth gwybodaeth sy’n fuddiol i lesddeiliaid. Yn arbennig gan y bydd costau darparu gwybodaeth yn debygol o gael eu talu, fel y mae nawr, gan y lesddeiliad. Felly, fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym eisiau eich barn am yr amser a’r costau sy’n gysylltiedig â darparu gwybodaeth er mwyn taro’r cydbwysedd cywir i lesddeiliaid.