Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Rhestr termau allweddol
Cyfnod cyfrifyddu |
Cyfnod o 12 mis a bennir yn y les fel cyfnod cyfrifyddu neu, os nad oes cyfnod o'r fath wedi'i nodi yn y les, cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Ebrill. |
Tâl gweinyddol |
Swm sy'n daladwy gan lesddeiliad fel rhan o'r rhent neu'n ychwanegol at y rhent sy'n daladwy, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol (a) ar gyfer neu mewn cysylltiad â rhoi cymeradwyaethau o dan y les, neu geisiadau am gymeradwyaethau o'r fath, (b) ar gyfer neu mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan neu ar ran y landlord neu berson sy'n barti i'r les ac eithrio'r landlord neu'r lesddeiliad, (c) mewn perthynas â methiant gan y tenant i wneud taliad erbyn y dyddiad dyledus i'r landlord neu berson sy'n barti i'r les ac eithrio'r landlord neu'r lesddeiliad, neu (d) mewn cysylltiad â thorri (neu dorri honedig) cyfamod neu amod yn ei les. |
Adroddiad blynyddol |
Mae adroddiad blynyddol yn adroddiad, sy'n cwmpasu ystod o wybodaeth ariannol a gwybodaeth arall, a fydd yn cael ei ddarparu i lesddeiliaid gan eu landlord cyn neu o fewn mis o ddechrau cyfnod cyfrifyddu 12 mis newydd. |
Tribiwnlys Priodol neu Dribiwnlys Perthnasol |
Mae tribiwnlys priodol neu'r tribiwnlys perthnasol yn cyfeirio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo), neu pan bennir gan neu o dan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlys, y Tribiwnlys Uchaf, yn Lloegr a'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru, sy'n delio â setlo anghydfodau mewn perthynas ag eiddo lesddaliad, gan gynnwys anghydfodau o ran tâl gwasanaeth a methiant i ddarparu gwybodaeth i lesddeiliaid. |
Cynllun rheoli asedau |
Cynllun ysgrifenedig wedi'i baratoi a'i ddarparu gan y landlord i'r lesddeiliad sy'n asesu cyflwr eiddo, gan ragweld atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol, a gall ragweld costau'r gwaith hyn. |
Yswiriant Adeiladau |
Mae'n gyffredin i'r les ei gwneud yn ofynnol i'r adeilad cyfan neu ran o'r adeilad gael ei yswirio rhag risgiau fel tân, mellt, ymsuddiant a hyd yn oed terfysgaeth. Mae yswiriant adeiladau fel arfer ond nid bob amser yn gyfrifoldeb i'r landlord er y bydd y les fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r lesddeiliad dalu cyfran o'r gost. |
Rhannau cyffredin |
Unrhyw rannau o'r adeilad nad ydynt yn rhan o uned (neu fflat). Yn gyffredinol, mae hyn yn cynnwys ardaloedd cymunedol a rennir rhwng perchnogion unedau (megis gerddi, cynteddau a grisiau), rhannau strwythurol o'r adeilad, megis y waliau allanol a'r to, ac unrhyw bibellau, ceblau a gosodiadau eraill nad ydynt wedi'u lleoli o fewn uned, nac yn gwasanaethu'r uned honno yn unig. Mae'r union ddiffiniad yn dibynnu ar eiriad y les. |
Dyfarniad oherwydd diffyg |
Dyfarniad gan lys fel gweithred weinyddol yn hytrach na threial neu wrandawiad. Dyfarniad oherwydd diffyg yw penderfyniad cynnar ar hawliad lle mae diffynnydd wedi methu â chydnabod hawliad neu gyflwyno amddiffyniad o fewn terfynau amser penodol. |
Goddefeb |
Gall landlord wneud cais i lys neu dribiwnlys i osgoi cyflwyno hysbysiad o dan y weithdrefn gwaith mawr a nodir yn a.20 Deddf Landlord a Thenant 1985. Os ydynt yn llwyddo, mae'r llys neu'r tribiwnlys yn cyhoeddi goddefeb rhag cyflwyno'r hysbysiad hwnnw. |
Ffi digwyddiad |
Ffi sy'n daladwy o dan deler neu sy'n ymwneud â les breswyl eiddo ymddeol ar ddigwyddiadau penodol fel ailwerthu neu is-osod. Gellir defnyddio amryw o enwau i gyfeirio at ffioedd digwyddiad gan gynnwys ffioedd ymadael, ffioedd trosglwyddo, ffioedd rheolaeth ohiriedig, ffioedd wrth gefn a ffioedd gwasanaeth gwerthu. |
Tribiwnlys Haen Gyntaf |
Mae'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo) yn delio â setlo anghydfodau mewn perthynas ag eiddo lesddaliad yn Lloegr, gan gynnwys anghydfodau tâl gwasanaeth a methiant i ddarparu gwybodaeth i lesddeiliaid. |
Tâl gwasanaeth sefydlog |
Mae tâl gwasanaeth sefydlog yn nodi union swm y tâl gwasanaeth y mae lesddeiliaid yn ei dalu am y cyfnod cyfrifyddu, ar gyfer rhestr benodol o wasanaethau. |
Pen leswr |
Landlord les ganolradd. |
Sail indemniad |
Y sail y mae llys yn asesu costau ymgyfreitha parti arno, y mae'n rhaid iddynt fod wedi'u codi'n rhesymol ac yn rhesymol o ran swm er mwyn bod yn daladwy. |
Hysbysiad galw cychwynnol am dâl gwasanaeth |
Yr hysbysiad galw cychwynnol yw’r hysbysiad cyntaf ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu flaenorol a gyflwynir i lesddeiliad, ar gyfrif neu fel ôl-ddyled, yn galw arnynt i dalu'r cyfraniad tâl gwasanaeth am gyfnod a bennir yn y les. |
Landlord canolradd |
Person sy'n dal "les ganolradd". Maent yn dal buddiant lesddaliad, ac yn ei dro yn landlord o dan les arall, o'r cyfan neu ran o'r un eiddo. |
Landlord |
Unrhyw berson sydd â hawl i orfodi talu tâl gwasanaeth. Gall landlord fod naill ai'n rhydd-ddeiliad yr eiddo neu fod â buddiant lesddaliad yn yr eiddo ei hun. |
Les |
Y ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i'r deiliad feddiannu eiddo am gyfnod penodol o amser. Mae'n cynnwys telerau'r trefniant contractiol, megis pa gostau’r landlord y gellir eu hail-godi ar lesddeiliaid trwy dâl gwasanaeth, unrhyw gyfyngiadau ar allu'r lesddeiliad i is-osod neu wneud newidiadau. |
Lesddaliad |
Math o berchnogaeth eiddo sy'n gyfyngedig o ran amser, lle mae rheolaeth ar yr eiddo yn cael ei rannu â'r landlord a'i gyfyngu ganddo. |
Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau |
Mae'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yn delio â datrys anghydfodau mewn perthynas ag eiddo lesddaliad yng Nghymru, gan gynnwys anghydfodau tâl gwasanaeth, amrywiadau i lesoedd a phenderfynu ar bremiymau ar gyfer prynu rhydd-ddaliadau ac estyniadau i lesoedd. |
Lesddeiliad |
Mae lesddeiliad yn berson neu gwmni sy'n berchen ar eiddo sy'n ddarostyngedig i delerau cytundeb les ysgrifenedig, fel arfer am 99, 125 neu 999 o flynyddoedd. Mae'r les yn creu rhwymedigaethau y mae'n rhaid i lesddeiliad gydymffurfio â nhw, gan gynnwys y rhwymedigaeth i dalu'r tâl gwasanaeth. |
Costau ymgyfreitha |
Costau y mae landlord neu lesddeiliad yn mynd iddynt yn ystod achosion cyfreithiol. Yn adran 62 a 63 Deddf 2024, ystyr "costau ymgyfreitha" yw unrhyw gostau y mae person yn mynd iddynt neu’n debygol o fynd iddynt mewn cysylltiad ag achosion perthnasol y maent yn barti iddynt. |
Gwaith mawr |
"Gwaith cymwys" [3] a wneir i adeilad neu fangre arall, megis addurno, atgyweiriadau, gwelliannau neu adnewyddiadau, sy'n angenrheidiol i gadw bloc neu ystad mewn cyflwr boddhaol, a fyddai'n costio naill ai dros £250 i bob lesddeiliad neu, pe bai "cytundeb hirdymor cymwys"[4] yn ei le, dros £100. |
Asiant rheoli |
Unigolyn neu gwmni a benodir i redeg a rheoli'r adeilad a'r gwasanaethau ar ran landlord neu gwmni rheoli preswylwyr. |
Hysbysiad tâl cysoni |
Hysbysiad galw am daliad ar ôl cyhoeddi cyfrifon tâl gwasanaeth. Mae'n ceisio arian ychwanegol gan lesddeiliaid lle roedd gorwariant ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn erbyn costau gwirioneddol a ysgwyddwyd. |
Costau perthnasol [5] |
Costau perthnasol yw'r costau neu'r costau amcangyfrifedig a ysgwyddwyd neu sydd i'w hwynebu gan neu ar ran y landlord, neu landlord uwch, mewn cysylltiad â gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw, gwelliannau, neu yswiriant neu gostau rheoli'r landlord. |
Cronfa wrth gefn/cronfa ad-dalu |
Cronfa o arian sy'n cael ei gasglu i dalu costau gwaith yn y dyfodol, gwaith untro neu waith mawr sydd ei angen, megis amnewid lifft neu do. |
Cwmni Rheoli Preswylwyr |
Mae Cwmni Rheoli Preswylwyr yn gwmni sy'n eiddo i lesddeiliaid adeilad sy'n cynnwys fflatiau, ac yn cael ei redeg ganddynt, a nhw sy'n ymgymryd â gwaith rheoli a chynnal a chadw'r adeilad. Mae Cwmni Rheoli Preswylwyr fel arfer yn barti i'r les ac mae eu dyletswyddau i lesddeiliaid wedi'u nodi yn y les. Gall Cwmni Rheoli Preswyl fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad neu beidio. |
Cwmni a grëwyd gan lesddeiliaid adeilad sy'n cynnwys fflatiau i ymgymryd â’r gwaith o reoli’r adeilad oddi wrth y rhydd-ddeiliad, heb brynu na pherchnogi'r rhydd-ddaliad. |
|
Adran 20 |
Mae adran 20 Deddf Landlord a Thenant 1985 yn nodi'r gofynion ymgynghori y mae'n rhaid i landlord eu dilyn ar gyfer unrhyw waith cymwys neu gytundebau hirdymor cymwys (gwaith mawr). |
Mae hysbysiad Adran 20B yn cael ei anfon gan landlord pan nad ydynt yn gallu anfon hysbysiad galw am daliad i'r lesddeiliad o fewn 18 mis i'r gost gael ei chodi. Mae'n hysbysu'r lesddeiliad bod costau wedi'u codi yn ystod y cyfnod tâl gwasanaeth a fydd yn daladwy trwy'r tâl gwasanaeth. |
|
Tâl gwasanaeth [6] |
Cyfraniad ariannol sy'n daladwy gan lesddeiliad fel arfer i landlord, am gyfran o gostau yswirio, cynnal a chadw, atgyweirio, glanhau, etc. yr adeilad. Bydd manylion yr hyn y gall (ac na all) y landlord alw amdano a chyfran y tâl sydd i'w dalu gan y lesddeiliad unigol i gyd yn cael eu nodi yn y les. |
Cyfrifon tâl gwasanaeth |
Datganiad neu ddatganiadau a gyhoeddwyd i lesddeiliaid gan y landlord i gyfrif am incwm a gwariant tâl gwasanaeth gwirioneddol yn y cyfnod cyfrifyddu 12 mis. |
Hysbysiad galw am dâl gwasanaeth |
Mae hysbysiad galw am dâl gwasanaeth yn anfoneb a gyflwynir gan y landlord neu'r asiant rheoli sy'n nodi'r cyfraniad tâl gwasanaeth y mae'n ofynnol i lesddeiliad ei dalu am gyfnod penodol fel y nodir yn y les, i gyfrannu at gostau rheoli a chynnal a chadw'r adeilad. |
Landlord cymdeithasol |
Sefydliad fel awdurdod lleol, Darparwr Cofrestredig Preifat yn Lloegr, neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, sy’n darparu tai. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud elw. Gall landlordiaid cymdeithasol rentu eu heiddo i denantiaid cymdeithasol. Gall lesddeiliaid gael landlord cymdeithasol os oes ganddynt eiddo dan ranberchnogaeth neu os oedd eu heiddo yn eiddo i landlord cymdeithasol yn flaenorol. |
Tenant tai cymdeithasol |
At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, ystyr tenant yw rhywun sy'n rhentu gan landlord cymdeithasol ac y gofynnir iddo dalu tâl gwasanaeth. |
Is-lesddeiliad |
Person sy'n dal "is-les" (les sydd â buddiant lesddaliad uwch ei phen). Mae'r unigolyn yn dal buddiant lesddaliad, ac mae ei landlord uniongyrchol hefyd yn lesddeiliad. |
Landlord uwch |
Lle mae lesoedd neu fuddiannau lluosog mewn eiddo, gan greu cadwyn o landlordiaid a thenantiaid, y landlord uwch fel arfer yw'r un sydd â'r buddiant uchaf yn y gadwyn. |
[3] Fel y'i diffinnir gan a.20ZA(2) Deddf Landlord a Thenant 1985 a rheoliad 6 Rheoliadau Tâl Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Lloegr) 2003 a rheoliad 6 Rheoliadau Tâl Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004.
[4] Fel y'i diffinnir gan a.20ZA(2) Deddf Landlord a Thenant 1985, rheoliad 6 Rheoliadau Tâl Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Lloegr) 2003 a rheoliad 6 Rheoliadau Tâl Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004.
[5] Fel y'i diffinnir gan a.18(2) Deddf Landlord a Thenant 1985, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2024.
[6] Fel y'i diffinnir gan a.18(1) Deddf Landlord a Thenant 1985 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2024).