Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn cau 26 Medi 2025

Wedi agor 4 Gorff 2025

Trosolwg

Cwmpas yr ymgynghoriad hwn

Pwnc yr ymgynghoriad hwn

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ("Deddf 2024") yn cyflwyno cyfres o ddiwygiadau i wella perchentyaeth i filiynau o lesddeiliaid yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnwys mesurau i wella hawliau lesddeiliaid presennol a’u helpu i ddwyn eu landlordiaid i gyfrif yn well trwy gynyddu tryloywder taliadau gwasanaeth a pholisïau yswiriant adeiladau, yn ogystal â thrwy fynd i'r afael â chostau ymgyfreitha anghyfiawn. Bydd hyn yn helpu lesddeiliaid i graffu’n well ar ffioedd a thaliadau annheg a’u herio, yn ogystal â rhesymoldeb y gwasanaethau maent yn talu amdanyn nhw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut i weithredu'r gofynion newydd hyn. 

Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio barn ar gynigion newydd ar gyfer gwneud newidiadau ynghylch y taliadau y mae lesddeiliaid yn eu talu a'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Mae'r rhain yn cynnwys ymrwymiadau Llywodraeth y DU a nodir yn Natganiad Ysgrifenedig y Gweinidog dyddiedig 21 Tachwedd 2024 i ddiwygio'r drefn gwaith mawr a chyflwyno cymwysterau gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli.

Trwy gydol y ddogfen ymgynghori hon, byddwn yn defnyddio'r term "landlordiaid" fel llaw-fer ar gyfer "rhydd-ddeiliaid, landlordiaid lesoedd canolradd, Cwmnïau Rheoli gan Breswylwyr, a Chwmnïau Hawl i Reoli", gan mai dyma'r bobl sy'n gallu mynnu tâl gwasanaeth. Rydym hefyd yn defnyddio'r term "lesddeiliad" i gyfeirio at bobl sy'n berchen ar dai neu fflatiau sy'n atebol i dalu tâl gwasanaeth (gan gynnwys y rhai sy’n berchen eu cartrefi drwy ranberchnogaeth). Yr eithriad i hyn yw lle rydym yn cyfeirio'n uniongyrchol at ddeddfwriaeth lle rydym yn defnyddio'r term "tenant" sydd yn y cyd-destun hwn hefyd yn golygu lesddeiliad gan mai dyma sut mae deddfwriaeth yn aml yn cyfeirio atynt (ac nid rhywun sy'n rhentu eiddo). Byddwn hefyd yn cyfeirio at y “tribiwnlys priodol” neu’r “tribiwnlys perthnasol” ar gyfer costau ymgyfreitha i olygu Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn Lloegr neu’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.

Cwmpas daearyddol

Mae'r cynigion hyn yn ymwneud â Chymru a Lloegr.

Bydd ymatebion i’r cwestiynau yn Rhan 1 y ddogfen hon yn cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud penderfyniadau am weithredu’r rhannau perthnasol o Ddeddf 2024 yn Lloegr, a chan Weinidogion Cymru wrth wneud penderfyniadau am weithredu’r rhannau perthnasol o Ddeddf 2024 yng Nghymru. Roedd Deddf 2024 yn rhoi’r pwerau i weithredu rhannau perthnasol Deddf 2024 i’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â Lloegr, a Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â Chymru.

Bydd ymatebion i’r cwestiynau am ddiwygiadau eraill posibl yn y dyfodol (yn Rhan 2 y ddogfen hon) yn cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ar gyfer penderfyniadau am ddiwygiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yn Lloegr, a Gweinidogion Cymru, ar gyfer penderfyniadau am ddiwygiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio datblygiad is-ddeddfwriaeth gan lywodraethau'r DU a Chymru.

Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English

Asesiad Effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith yn flaenorol yn ystod taith Deddf 2024 drwy’r senedd a oedd yn cwmpasu’r mesurau cyffredinol perthnasol. Bydd pob rheoliad a gyflwynir o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn yn destun asesiad priodol.

Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, gan gynnwys y rhai o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i effaith bosibl eu cynigion ar bobl â nodweddion gwarchodedig, a'u cyfrifoldebau i ystyried egwyddorion amgylcheddol mewn unrhyw gynigion, gan gynnwys, mewn perthynas â Lloegr, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd 2021.

Roedd ystyried y dyletswyddau hyn yn sail i’r camau wrth basio Deddf 2024, ac rydym yn croesawu tystiolaeth a barn am effaith y polisi hwn fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir yn dilyn yr ymgynghoriad hwn yn destun asesiad priodol.

Gwybodaeth sylfaenol

Cyrff sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriad

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.

Hyd

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 12 wythnos o 4 Gorffennaf i 26 Medi 2025.

Ymholiadau

Am unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â: protectingleaseholders@communities.gov.uk

Sut i ymateb

Gallwch ymateb drwy gwblhau arolwg ar-lein ar Citizen Space.

Fel arall, gallwch e-bostio eich ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn at protectingleaseholders@communities.gov.uk

Dywedwch wrthym beth yw eich barn