Ymgynghoriad ar gyflwyno ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo

Tudalen 1 o 11

Yn cau 24 Chwef 2025

Cwmpas yr ymgynghoriad

Pwnc yr ymgynghoriad hwn

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i roi mwy o bwerau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid. Sefydlodd bwerau i ail-gydbwyso’r drefn costau cyfreithiol a chael gwared ar rwystrau a allai atal lesddeiliaid rhag herio eu landlord. Mae hefyd wedi cyflwyno pwerau i wella tryloywder taliadau gwasanaeth, gan ganiatáu i lesddeiliaid graffu ar gostau a herio costau annheg yn well. Bydd ar y pwerau hyn angen is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu’r Ddeddf yn llawn.

Mae’r Ddeddf hefyd wedi creu pwerau i fynd i’r afael â phryderon hirsefydlog bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu costau i’w landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau, er na allant gyfiawnhau na rhoi cyfrif llawn o’r gwaith a wnaed.  

Y pryder i’n llywodraethau yw bod costau yswiriant sylweddol yn cael eu codi ar y lesddeiliaid hyn ac nad oes ganddynt fawr o ddylanwad neu allu i graffu ar y costau hyn, neu herio’r costau hynny os ydynt yn afresymol. Gallai hyn gynnwys cydnabyddiaeth ariannol anghymesur am wasanaethau wrth drefnu a rheoli yswiriant, neu hyd yn oed gomisiynau – a manteision ariannol eraill – yn cael eu rhoi i landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir.

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw cyflwyno cynigion i fynd i’r afael â’r materion uchod. Ein nod yw sicrhau bod unrhyw gostau mewn perthynas â rheoli a threfnu yswiriant a godir ar lesddeiliaid gan landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn deg ac yn dryloyw.

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniatáu disodli’r arfer presennol o dalu landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant, sy’n digwydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd trwy frocer yswiriant sy’n rhannu cyfran o’u comisiwn.

Yn hytrach, mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniatáu ffi newydd lle byddai landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn codi tâl ar lesddeiliaid ar wahân i’r premiwm yswiriant. Byddai’r ffi hon yn deg, yn dryloyw ac yn adlewyrchu’r gwaith a gyfrannwyd. Gyda chymorth ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, rydym am ddeall pa daliadau a fydd yn cael eu caniatáu o fewn y ffi hon er mwyn llywio is-ddeddfwriaeth.

Trwy weddill y ddogfen ymgynghori, byddwn yn defnyddio’r term “rhydd-ddeiliaid” fel llaw-fer ar gyfer “rhydd-ddeiliaid a landlordiaid”. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd y landlord ar gyfer lesddeiliad yn rhydd-ddeiliad ar eu cyfer mewn rhai achosion, er enghraifft pan fo’r landlord yn brif lesddeiliad.

Cwmpas daearyddol

Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â Chymru a Lloegr. Bydd yr ymgynghoriad yn hysbysu llywodraethau’r DU a Chymru a fydd yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar wahân.

Asesiad effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith yn flaenorol fel rhan o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a oedd yn cwmpasu’r mesurau cyffredinol perthnasol. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir o ganlyniad i’r ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.

Mae ein llywodraethau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i effaith bosibl eu cynigion ar bobl â nodweddion gwarchodedig, a’u cyfrifoldebau i ystyried egwyddorion amgylcheddol mewn unrhyw gynigion fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd 2021.

Roedd ystyried y dyletswyddau hyn yn sail i hynt Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, ac rydym yn croesawu tystiolaeth a barn ar effaith y polisi hwn fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir yn dilyn yr ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.

Hyd

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 12 wythnos.

Ymholiadau

Am unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â:  commissionsconsultation@communities.gov.uk