Arolwg o'r Defnydd o Ganllawiau Diogelwch 2026 - LGA

Trosolwg

Bwriedir i'r arolwg hwn edrych ar (1) eich profiad o gyrchu a defnyddio'r canllawiau diogelwch a ddarparwyd yn ystod yr etholiadau diweddar a (2) eich profiadau o fygylu yn ystod cyfnod yr etholiad.

Bydd y data a gesglir yn llywio'r hyn a gynhwysir mewn fersiynau o ganllawiau yn y dyfodol a'r ffordd y caiff canllawiau eu dosbarthu i ymgeiswyr.

Dylech ymateb erbyn hanner nos ar 14 Mehefin

Dylai'r arolwg gymryd tua 10-15 munud i'w ateb. Mae botwm 'yn ôl' i fwrw golwg dros atebion blaenorol a botwm 'cyntaf' sy'n eich galluogi i fynd yn ôl i'r cwestiwn cyntaf yn yr arolwg. Noder bod yn rhaid i chi gwblhau'r holl gwestiynau gorfodol ar y dudalen cyn defnyddio'r botymau 'cyntaf' neu 'yn ôl'. Gallwch hefyd gadw eich atebion a dychwelyd iddynt yn ddiweddarach.

Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth hanfodol i sicrhau effeithiolrwydd canllawiau yn ystod cyfnodau etholiadau yn y dyfodol. Gwyddom pa mor brysur ydych chi ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y ffaith eich bod yn fodlon rhoi o'ch amser i gwblhau'r arolwg.  

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Cysylltwch â ni yn JESP@communities.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau. Byddwn yn ceisio ymateb i bob ymholiad, ond byddwch yn ymwybodol y gallai ein capasiti fod yn gyfyngedig. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Yn cau 14 Meh 2026