Diwygio’r systemau lesddaliad a chyfunddaliad yng Nghymru a Lloegr

Closed 22 Feb 2022

Opened 11 Jan 2022

Overview

Trosolwg

Diwygio’r systemau lesddaliad a chyfunddaliad yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiadau i’r system lesddaliad a chyfunddaliad yn dilyn argymhellion yn adroddiadau Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2020. 

Yn benodol, mae’n ceisio barn am:

  • Y cyfyngiad amhreswyl ar ryddfreinio cyfun;
  • Y cyfyngiad amhreswyl mewn hawliadau hawl i reoli; 
  • Y cyfyngiad amhreswyl ar gyfer caffael rhydd-ddaliad unigol;
  • Gyflwyno adles gorfodol fel rhan o gaffael rhydd-ddaliad cyfun;
  • Hawliau pleidleisio cyfunddaliad mewn eiddo rhanberchenogaeth; a
  • Ddarparu gwybodaeth yn ystod gwerthiant eiddo cyfunddaliad.

Pam mae eich barn yn bwysig

Ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith yn 2018 a 2019 ar ryddfreinio, yr [hawl i reoli a chyfunddaliad. Cyhoeddwyd a chyflwynwyd eu hadroddiadau i’r Llywodraeth yn 2020. Roedd cyhoeddiadau llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Ionawr 2021 ymateb i nifer o argymhellion yn yr adroddiadau hyn. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar weithredu’r rhaglen ddiwygio hon.  

Mae llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn awr wedi ystyried argymhellion pellach gan Gomisiwn y Gyfraith ac yn cytuno mewn egwyddor y byddai’r cynigion yma yn cyflawni’r nodau yr ydym wedi eu gosod. Er mwyn cefnogi symud y gwaith hwn ymlaen rydym yn ceisio barn a thystiolaeth bellach ar rai argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith.